Er fod adfer y GIG yn flaenoriaeth i’r llywodraeth, mwy nag erioed yn talu i fynd yn breifat
Er fod adfer y GIG yn flaenoriaeth i’r llywodraeth, mwy nag erioed yn talu i fynd yn breifat
Er fod mynd i'r afael â rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd yn "un o brif flaenoriaethau" y llywodraeth, mae triniaethau yn ysbytai preifat Cymru ar eu lefel uchaf erioed yn ôl ffigyrau newydd.
Yn ôl y Rhwydwaith Gwybodaeth Gofal Iechyd Preifat (PHIN), roedd 7,900 o driniaethau mewn ysbytai preifat Cymreig yn nhri mis cyntaf 2024.
Bum mlynedd yn ôl, roedd 4,470 o driniaethau o'r fath yn yr un cyfnod.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd newydd Cymru, Jeremy Miles, ddydd Iau ei fod "ddim am weld" pobl yn troi at y sector breifat ac mai mynd i'r afael â rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd yw "un o brif flaenoriaethau" y llywodraeth.
Ffurfiwyd y Rhwydwaith Gwybodaeth Gofal Iechyd Preifat gan Lywodraeth San Steffan yn 2014 i gynnig gwyboodaeth annibynnol ynglŷn â gofal iechyd preifat.
Yn ôl y corff, mae Cymru'n unigryw o fewn y Deyrnas Unedig gan bod mwy o bobl yn talu am driniaeth feddygol breifat o'u poced eu hunain na thrwy gynlluniau yswiriant.
Roedd y nifer uchaf erioed wedi talu am driniaeth ysbyty preifat yn bersonol a thrwy gynllun yswiriant yma.
Tynnu cataract oedd y driniaeth fwyaf cyffredin, gyda 2,175 o bobl yn mynd yn breifat am driniaeth o'r math yma rhwng dechrau Ionawr a diwedd mis Mawrth eleni.
Ym mis Awst eleni, talodd Gwenan Roberts o Ben Llŷn am dynnu cataract yn breifat.
Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod yn cydnabod ei bod yn ffodus bod ganddi'r gallu i dalu am driniaeth breifat wedi i'w meddyg teulu ddweud bod y cataract yn tyfu'n gyflym.
"Mater o fisoedd os hynny oedd nes 'mod i'n colli tipyn o annibyniaeth fel gallu gyrru yn arbennig yn y nos, mwy na thebyg yn y dydd," meddai.
"Mi benderfynais i bod angen mynd yn breifat oherwydd rhestrau aros hir."
Mae hi'n dweud bod y driniaeth wedi gwella ei bywyd yn fawr:
"Mae colli annibyniaeth rhywun - yn arbennig rhywun sydd yn byw yng nghefn gwlad - fedrwch chi ddim mynd i nunlla, gwneud dim - mae'ch bywyd chi'n newid yn llwyr," ychwanegodd.
"Dydw i ddim yn dibynnu ar unrhyw un nawr. O fewn wythnos roeddwn i nôl yn gyrru ac rwy'n gallu gweld yn well nawr nag ers blynyddoedd lawer.
"Mae'n driniaeth mor syml mewn ffordd. Mi ellid gwneud llawer iawn ohonyn nhw yn sydyn iawn a bysan nhw'n medru cael gwared ar y rhestrau aros hirfaith iawn sydd 'na yn sydyn iawn."
Beio rhestrau aros hir ar y gwasanaeth iechyd am y cynnydd mae ei haelod Senedd lleol Mabon ap Gwynfor AS, sydd hefyd yn llefarydd iechyd i Blaid Cymru.
"Mae y llywodraeth wedi methu mynd i'r afael â rhestrau aros. Mae hynny'n golygu fod pobl yn mynd yn breifat.
"Mae hefyd yn golygu bod y rheiny sydd â'r gallu i gael triniaeth yn mynd i gael triniaeth tra bod y rheiny sydd dlotaf yn dal i aros am flynyddoedd.
"Mae'n golygu bod gwasanaeth iechyd ddwy haen gyda ni yng Nghymru a Llywodraeth Cymru sydd yn uniongyrchol gyfrifol."
Dywedodd Tom Giffard AS ar ran y Ceidwadwyr Cymreig hefyd bod pobl yn cael eu "gorfodi" i gael triniaeth feddygol yn breifat ac y dylai'r Ysgrifennydd Iechyd flaenoriaethu lleihau rhestrau aros y Gwansanaeth Iechyd.
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae rhestrau aros ar gyfer triniaethau ophthamoleg wedi bron a haneru ers eu bod nhw ar eu huchaf yn Ebrill 2022.
"Rhan o'r ateb yw creu gwasanaeth cataract rhanbarthol, fydd yn cwtogi amseroedd aros."