Newyddion S4C

Carcharu dyn o Abertawe am bum mlynedd am droseddau terfysgol

alex hutton.png

Mae dyn 19 oed o Abertawe wedi cael ei garcharu am bum mlynedd a phedwar mis am droseddau terfysgol ac am ymosod ar berson. 

Plediodd Alex Hutton yn euog yn Llys y Goron Winchester ddydd Iau i droseddau terfysgol ac am ymosodiad a gafodd ei ysgogi gan gasineb tuag at berson ar sail ei hunaniaeth drawsryweddol. 

Fe gafodd ei arestio ym mis Tachwedd y llynedd wedi i Heddlu'r De dderbyn adroddiad gan aelod o'r cyhoedd.

Roedd yr aelod o'r cyhoedd wedi datgan wrth yr heddlu ei fod wedi gweld fideo ar gyfrif Instagram Hutton ohono yn honni iddo gicio person yn ei ben. Roedd y fideo hefyd yn cynnwys delweddau asgell dde eithafol. 

Cafodd ei garcharu am bum mlynedd a phedwar mis, a chyfnod o bum mlynedd ar drwydded. 

'Fantasydd'

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Leanne Williams: "Does dim dwywaith y bydd yr ymosodiad yn gadael effaith hirdymor ar y person ifanc yma a dwi'n gobeithio fod canlyniad heddiw yn cynnig rhywfaint o gysur iddi. 

"Yn ogystal, fe wnaeth Hutton ddangos bwriad clir i ledaenu ei gasineb ar hyd y we yn annog gweithredoedd terfysgol. 

"Dwi'n gobeithio y bydd yn defnyddio ei amser yn y ddalfa i adlewyrchu ar ei weithredoedd, gyda'r bwriad o fyw bywyd llawer mwy cynhyrchiol pan y bydd yn cael ei ryddhau o'r carchar mewn amser."

Ychwanegodd Pennaeth Adran Gwrthderfysgaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron, Bethan David: "Nid ffantasydd gyda safbwyntiau eithafol yn unig ydy Alex Hutton, mae'n ddyn ifanc peryglus. 

"Roedd ei ymosodiad digymell wedi cael ei ysgogi gan gasineb, ac mae'n peri risg sylweddol i grwpiau eraill mewn cymdeithas."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.