Newyddion S4C

'Mae’n ofnadwy o anodd i fyw': Realiti prinder meddyginiaeth ADHD

ITV Cymru 22/09/2024

'Mae’n ofnadwy o anodd i fyw': Realiti prinder meddyginiaeth ADHD

Mae Tudor Jones o Aberystwyth wedi methu cael mynediad i’w feddyginiaeth ADHD am bron i dri mis, sy’n ei gwneud hi’n “ofnadwy o anodd i fyw".

Gydag ond pum pilsen ar ôl, mae Tudor yn dweud bod rhaid iddo ddogni ei feddyginiaeth rhag ofn y bydd eu hangen mewn argyfwng yn y dyfodol.

Mae prinder meddyginiaeth ADHD wedi bod ers i’r Gwasanaeth Iechyd gyhoeddi rhybudd diogelwch i gleifion flwyddyn yn ôl.

Mae hyn wedi'i achosi gan gyfuniad o faterion gweithgynhyrchu a chynnydd yn y galw byd-eang. Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd, mae’n broblem rhyngwladol sy’n effeithio ar bob cyflenwr o’r meddyginiaeth. 

Cafodd Tudor ddiagnosis o ADHD yn 33 oed, oedd wedi “gwella ei fywyd” am gyfnod, ond nawr mae’n rhaid iddo aros i glywed pa bryd y bydd yn gallu cymryd ei gwrs arferol eto.

“Gyda’r meddyginiaeth mae bywyd yn eithaf da, heb y meddyginiaeth, sai’n gwneud dim,” meddai.

'Trist a sal'

Mae ADHD yn anhwylder datblygiadol lle bydd unigolyn yn cael profi symptomau fel diffyg sylw, byrbwylltra a gorfywiogrwydd sy’n amharu ar weithrediad neu ddatblygiad unigolyn. 

Mae Tudor wedi disgrifio’r tri mis diwethaf heb ei feddyginiaeth yn “ofnadwy o anodd”, gan orfod peidio cymryd tabledi ambell ddiwrnod, sydd wedi bod yn her. 

“Roedd cysgu’n fwy anodd, doedd gen i ddim egni, o’n i’n teimlo bach yn drist ac yn sal.”

Er i Tudor fynd yn breifat am ei ddiagnosis a’i feddyginiaeth, mae’n dweud na fydd yn gallu fforddio mynd nôl eto a rhedeg risg o dderbyn a thalu am feddyginiaeth anaddas.

Nid yw wedi cael unrhyw ddyddiad pendant o pryd y bydd yn derbyn mwy.

Er bod rhai meddyginiaeth ADHD ar gael, yn ôl y GIG, nid oes digon i gyflenwi’r prinder. Er hyn, maent yn disgwyl i gynhyrchion amrywiol ddod ar gael ar wahanol adegau rhwng Mehefin a Thachwedd 2024. 

Mae Tudor yn dweud bod y sefyllfa yn anghyson ar draws y Deyrnas Unedig; gyda rhai yn cadw meddyginiaeth wrth gefn tra bod eraill yn gorfod dogni oherwydd y prinder. 

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod ganddynt ystod o gamau gweithredu i leddfu amhariadau cyflenwad i feddyginiaethau ADHD. 

Mae rhain yn cynnwys rhoi cyngor clinigol i’r rheiny sy’n rhoi’r presgiripsiwn. Mae hyn yn helpu gyda egluro’r gwahaniaethau rhwng gwahanol feddyginiaethau ADHD a rhwng brandiau o feddyginiaethau sy'n cynnwys yr un cynhwysion.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi gosod gwaharddiad ar allforio neu gadw meddyginiaethau ADHD gan gyfanwerthwyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.