Diffyg cefnogaeth iaith Gymraeg 'yn gadael goroeswyr strôc i lawr'
Mae diffyg cefnogaeth iaith Gymraeg yn "gadael goroeswyr strôc i lawr" yn ôl y Gymdeithas Strôc.
Dywed yr elusen fod rhai goroeswyr strôc yn methu â chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny oherwydd nad oes mynediad i therapi lleferydd ac iaith drwy'r Gymraeg.
Mae'r Gymdeithas Strôc yn dweud y dylid cynnig gwasanaeth Cymraeg i oroeswyr sy'n siarad yr iaith er mwyn sicrhau "cydraddoldeb".
Fe wnaeth yr elusen gomisiynu Prifysgol Metropolitan Caerdydd i ddarganfod profiadau goroeswyr strôc sy'n siarad Cymraeg yn ogystal â phwysigrwydd argaeledd cefnogaeth yn eu hiaith gyntaf.
Dywed yr elusen fod darparu gofal iechyd yn iaith ddewisol rhywun yn cael ei gydnabod fel rhywbeth "pwysig i'w gofal" ac yn "hanfodol" i adferiad goroeswyr.
Mae affasia yn effeithio ar allu rhywun i siarad, darllen, ysgrifennu a defnyddio rhifau, a strôc sy'n ei achosi gan amlaf.
Mae dros 70,000 o oroeswyr strôc yng Nghymru, gyda 40% ohonynt yn profi affasia.
'Rhan ohonof i'
Fe gafodd Sian Teagle, 50, o Fargoed, strôc ym mis Rhagfyr 2022, ac mae'n credu bod cynnig therapi lleferydd ac iaith yn y Gymraeg yn bwysig iawn.
"Mae siarad Cymraeg yn bwysig iawn i mi, ac mae’n rhan ohonof fi. Pan gefais fy strôc, cefais therapi lleferydd ac iaith yn Saesneg ond ni chynigiwyd y gwasanaeth hwnnw i mi yn y Gymraeg," meddai.
"Ar ôl fy strôc, dywedodd fy merch Arwen, sy'n siarad Cymraeg, fod fy Nghymraeg yn llawer gwell na fy Saesneg. Byddwn yn dechrau slwtian yn Saesneg, ond roedd fy Nghymraeg yn iawn.
"Efallai y byddwn wedi bod yn fwy hyderus gyda fy Nghymraeg pe bawn i wedi gallu cael therapi lleferydd ac iaith. Ni ofynnwyd i mi erioed a oedd angen therapi lleferydd ac iaith arnaf yn Gymraeg, sydd bellach yn syfrdanol yn fy marn i."
Mae'r Gymdeithas Strôc yn cynnig nifer o wasanaethau yn y Gymraeg, o'r grŵp cymorth ar-lein ‘Paned a Sgwrs’ i'r 'Llinell Gymorth Strôc’ sy’n cynnig gwasanaeth galw’n ôl gyda siaradwr Cymraeg.
Ychwanegodd Llinos Wyn Parry, Arweinydd Ymgysylltu ar gyfer y Gymdeithas Strôc yng Nghymru: "Mae Cymraeg yn rhan sefydledig o wead cyfoethog Cymru ac rydym yn deall, i’r rhai sy’n siarad Cymraeg, mae’n rhan ganolog o’u bywyd a rhan bwysig o’r diwylliant a’r gymuned.
"Rydym yn credu bod pawb yn haeddu byw’r bywyd gorau posib ar ôl strôc. I siaradwyr Cymraeg, gwyddom fod hyn yn golygu eich cefnogi yn eich iaith ddewisol."
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Llywodraeth Cymru am ymateb.