Newyddion S4C

Pêl-droed ddim yn mynd adref!

11/07/2021
Yr Eidal
NS4C

Mae’r Eidal wedi trechu Lloegr a’u coroni yn bencampwyr Ewrop yn rownd derfynol Euro 2020 yn Wembley nos Sul.

Cyfartal oedd y sgôr ar ôl 90 munud o’r chwarae, ac fe aeth y gêm ymlaen i amser ychwanegol, cyn i giciau o’r smotyn benderfynu tynged y gêm.

Gyda’r holl bencampwriaeth wedi ei chynnal mewn amgylchiadau anarferol, roedd yr awyrgylch yng ngogledd orllewin Llundain yn llawn tensiwn o’r dechrau, gyda golygfeydd o gefnogwyr yn torri drwy rwystrau diogelwch er mwyn cyrraedd y cae cyn eu gêm i’w gweld.

Yn ogystal, roedd cefnogwyr yn bŵio yn ystod yr anthemau cenedlaethol, a hynny yn groes i alwadau gan reolwr Lloegr, Gareth Southgate, cyn y gêm.

Fe ddaeth gôl gyntaf Lloegr wedi dim ond dau funud o’r chwarae gyda foli ar draws gan Kieran Trippier yn cael ei tharo i gefn y rhwyd gan Luke Shaw. Dyma’r gôl gyflymaf erioed mewn rownd derfynol Pencampwriaeth Ewrop.

Roedd yn rhaid aros tan yr ail hanner i weld ail gôl y gêm gydag amddiffynnwr Juventus, Leonardo Bonucci yn unioni’r sgôr, a rhoi gobaith yn ôl i’r Eidalwyr ar ôl 67 munud.

Roedd yn gêm rwystredig i’r ddau dîm, ac ar ôl 90 munud o chwarae, fe aeth y chwarae ymlaen i amser ychwanegol.

Ni lwyddodd y naill dîm i sicrhau’r bencampwriaeth yn ystod yr amser ychwanegol, ac yna fe lwyddodd Yr Eidal i sicrhau 3-2 yn y ciciau o’r smotyn.

Llun: @azzurri  (Twitter)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.