Teyrnged i fachgen naw oed o Wrecsam fu farw yn sydyn dros y penwythnos
Mae teyrnged wedi cael ei rhoi i fachgen naw oed o Wrecsam fu farw yn sydyn dros y penwythnos.
Roedd Freddie Pritchard yn teithio adref gyda'i deulu ar ôl mwynhau gwyliau arbennig gyda'i gilydd.
Bu farw y disgybl oedd yn mynychu Ysgol yr Holl Saint yn Gresford yn sydyn fore Sadwrn.
Dywedodd ei fam Cerys ei bod hi wedi torri ei chalon o golli "ei bachgen bach hardd" a bod ei farwolaeth "yn sioc enfawr".
"Roedd teithio adref ar ôl gwyliau teuluol anhygoel erioed i fod y teimlad gwaethaf yn y byd," meddai.
Roedd Freddie yn aelod o dîm dan-10 oed Clwb Pêl-droed Gresford yn Wrecsam, ac mae'r clwb wedi rhoi teyrnged iddo.
Dywedodd rheolwr Freddie gyda'r clwb, Matt: "Fel tîm hyfforddi, rydym ni wedi gweithio gyda Freddie ers yr oedd yn chwech oed pan ddechreuodd ei daith bêl-droed gyda GAJFC.
"Rydym ni wedi gweld Freddie yn datblygu fel chwaraewr, cyd-chwaraewr a pherson hyfryd. Roedd Freddie yn aelod hoffus iawn o'r tîm ac roedd yn datblygu yn bêl-droediwr da iawn gyda throed chwith dalentog, a oedd yn sgorio nifer o goliau i ni.
"Fe fydd yr hyfforddwyr, y chwaraewyr a'r rhieni yn methu Freddie yn fawr, ond fe fydd yma gyda ni o hyd yn ein calonnau, ac ni fydd fyth yn cael ei anghofio."
Fe fydd holl dimau y clwb yn cynnal munud o dawelwch neu funud o gymeradwyaeth yn eu gemau dros y penwythnos er cof amdano.
Llun: Gresford Athletic FC