Prosiect i ddathlu 'trefadaeth gyfoethog criced Cymru' i dderbyn buddsoddiad
Fe fydd prosiect sy'n dathlu "treftadaeth gyfoethog criced Cymru" yn un o chwe chynllun fydd yn derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.
Bydd Amgueddfa Criced Cymru, yng Ngerddi Sophia, yn derbyn bron i £250,000 ar gyfer eu prosiect ''Mae criced wedi bod, ac yn dal i fod, yn gêm i bawb".
Mae'r prosiect yn dathlu diwylliant a hanes criced yng Nghymru, gan dynnu sylw at gyfraniadau menywod, pobl LHDTC+ a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Fe fydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio er mwyn gwella gofal y casgliadau, ychwanegu technoleg newydd a chreu murluniau celf gyhoeddus.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant: "Mae'r prosiect cyffrous hwn yn Amgueddfa Criced Cymru yn dangos pwysigrwydd cynrychioli ac ymgysylltu â phawb o wahanol gefndiroedd a sut mae pobl yn dod at ei gilydd drwy ddiwylliant."
Ychwanegodd Mark Frost, Rheolwr Cymunedol a Datblygu Criced Morgannwg: "Rydym yn benderfynol o sicrhau bod unrhyw un sy'n cerdded i mewn i'r safle yn gweld delweddau, lluniau a dyluniadau lle gallant weld pobl fel nhw eu hunain ac felly gallant gredu bod y croeso yn ddilys a bod 'criced yn gêm i mi'."
Mae prosiect i adnewyddu Llyfrgell Cwmbrân a'r Ganolfan Eifftaidd ym Mhrifysgol Abertawe ymysg y prosiectau eraill a fydd yn derbyn buddsoddiad, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.
Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn derbyn £210,000 i ddatblygu Llyfrgell newydd Aberaeron ac fe fydd Cyngor Sir Ddinbych yn derbyn dros £82,000 i wella'r brif ystafell arddangos ym Mhlas Newydd yn Llangollen.
Llun: Croeso Cymru