Newyddion S4C

Apêl am fanylion cyswllt cyn-chwaraewyr tîm pêl-droed merched Cymru

cyn chwaraewyr merched Cymru

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio apêl am fanylion cyswllt cyn-chwaraewyr y tîm pêl-droed merched cenedlaethol. 

Fe fydd y Gymdeithas yn cydnabod y chwaraewyr a gynrychiolodd y timau merched cenedlaethol yn y 1970au a'r 1980au gyda chapiau swyddogol Cymru mewn digwyddiad arbennig ar 4 Hydref. 

Roedd y cyfnod hwn cyn i'r tîm cenedlaethol ddod o dan Gymdeithas Bêl-droed Cymru. 

Mae gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru gofnodion o 27 o gemau a gafodd eu cynnal rhwng 1973 ac 1993, pan ddaeth y tîm o dan awenau y Gymdeithas. 

Mae'r tîm cenedlaethol bellach wedi chwarae dros 200 o gemau, ac fe fyddant yn chwarae yn eu gêm ail-gyfle Euro gyntaf ym mis Hydref. 

Dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf, mae'r Gymdeithas wedi bod yn ceisio cysylltu â chyn-chwaraewyr a oedd yn rhan o'r timau yn y 1970au a'r 1980au er mwyn eu hanrhydeddu.

Yn rhan o'r apêl, fe gafodd y cyn-chwaraewyr eu gwahodd i ddathliad pan y chwaraeodd Cymru yn erbyn Gwlad yr Iâ yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis Rhagfyr diwethaf. 

Mae 94 chwaraewyr wedi eu hadnabod o'r cyfnod, ac mae gan y Gymdeithas fanylion cyswllt ar gyfer 44 ohonynt. 

Ond bellach maent yn lansio apêl gyhoeddus er mwyn helpu i ddod o hyd i fanylion cyswllt gweddill y cyn-chwaraewyr neu eu teuluoedd er mwyn dathlu eu llwyddiannau. 

Dyma restr o'r chwaraewyr heb fanylion: 

Sandra Bretag, Sue Johnson, Gaynor Blackwell, Pat Griffiths, Sandra Hunt, Tina Cosatori, Linda James, Gaynor Jones, Gaynor Jones (nee Blackwell), Ann Rice, Julie Yale, Gillian Rowlands, Ann Jenkins, June Houldey, Helen Green, Caroline Green, Janet Lewis, Carol Paul, Barbara Jones, Christine Ross, Karen Atkins, Mandy Williams, Liz Harrington, Jean McCarthy, Angela Powell, Eve Webber, Wendy Wood, Jacqueline Butt, Nikki Groves, Samantha Porter, Suzy Faul, Jill Anson, Sandra Moore, Chris Coyle, Gill Bellis, Paula Cleeve, Lynette Roberts, Val Williams, G Day, Gail Manning, Delyth Wyn Jones, Jackie Weir (nee Jones), Annette Jones, T Heaton.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.