Rygbi: Sut dymor sydd yn wynebu'r rhanbarthau?
Mae disgwyl y bydd hi’n dymor heriol arall i ranbarthau rygbi Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig eleni.
Bydd y tymor newydd yn cychwyn nos Wener wrth i Gaerdydd groesawu Zebre i’r brifddinas.
Ddydd Sadwrn, fe fydd y Dreigiau yn mynd benben â'r Gweilch mewn gêm ddarbi yn Rodney Parade, tra bydd y Scarlets yn teithio i Treviso i herio Benetton.
Y Gweilch oedd y rhanbarth o Gymru a orffennodd uchaf y tymor diwethaf, gan lwyddo i gipio’r wythfed safle a lle yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig (PRU).
Inline Tweet: https://twitter.com/URCOfficial/status/1836435261577667011
Roedd Caerdydd, Scarlets a’r Dreigiau ymhlith y pum safle isaf yn y gynghrair.
Mae cryn drafod ynglŷn â dyfodol y rhanbarthau, wrth i Undeb Rygbi Cymru ystyried cwtogi eu niferoedd er mwyn ceisio llenwi bwlch o £35 miliwn.
O ganlyniad, mae bwlch sylweddol rhwng cyllidebau'r rhanbarthau o gymharu â rhai o'r timau eraill yn y PRU, sydd yn debygol o gael ei adlewyrchu gan y canlyniadau ar y cae fel oedd yn y tymor diwethaf.
Er bod sawl newid wedi bod ym mhob un o’r rhanbarthau, gyda nifer o wynebau cyfarwydd yn eu gadael, mae disgwyl y bydd ychydig o welliant ym mherfformiad y rhanbarthau'r tymor hwn, yn ôl cyn asgellwr Cymru Alex Cuthbert.
“Dw i’n meddwl y bydd y Scarlets a Chaerdydd yn gwella yn sicr,” meddai ar bodlediad Scrum V.
“O ran y Dreigiau, dwi ddim mor siŵr, ond dw i’n meddwl bydd y Gweilch yn cael tymor digon tebyg i’r llynedd. Dw i’n rhagweld nhw yn brwydro gyda’r Scarlets a Chaerdydd i fod y rhanbarth gorau yng Nghymru.”
Scarlets
Gyda chwaraewyr profiadol megis Jonathan Davies a Scott Williams yn gadael y clwb a Ken Owens yn ymddeol, bydd carfan y Scarlets yn edrych yn wahanol eleni.
Mae Dwayne Peel wedi dewis cryfhau’r pac dros yr haf, gyda’r propiau rhyngwladol Henry Thomas ac Alec Hepburn yn ymuno, ynghyd â’r bachwr Marnus van der Merwe a’r clo Max Douglas.
Maen nhw hefyd wedi llwyddo i ddal eu gafael ar y blaenwyr dylanwadol, Vaea Fifita a Sam Lousi, sydd yn hwb enfawr i griw’r Sosban.
Dreigiau
Mae’r Dreigiau hefyd wedi targedu chwaraewyr o faint sylweddol dros yr haf, er mwyn cynnig mwy o fygythiad corfforol eleni.
Y chwaraewyr rheng-ôl Solomone Funaki a Shane Lewis-Hughes, y canolwr o Awstralia, Harry Wilson, a’r maswr o Gaerloyw Lloyd Evans yw rhai o’r enwau sydd wedi ymuno dros yr haf.
Bydd Dai Flanagan yn colli presenoldeb y prop Lloyd Fairbrother a’r bachwr Bradley Roberts, wedi i’r ddau ymddeol dros y misoedd diwethaf.
Llwyddodd Gŵyr Gwent i beidio â gorffen ar waelod y tabl y tymor diwethaf, gan orffen yn 15fed allan o 16 o dimau – ond mi fydd ffyddloniaid Rodney Parade yn gobeithio am well.
Caerdydd
Gyda Tomos Williams, Owen Lane a Rhys Carre yn gadael ac Ellis Jenkins a Josh Turnbull yn ymddeol, fe fyddai rhai yn rhagweld tymor anodd i ranbarth y brifddinas.
Inline Tweet: https://twitter.com/Cardiff_Rugby/status/1836721693751992523
Ond ar ôl i gwmni Helford Capital Limited ddod yn berchnogion ar y clwb fis Ionawr, mae Caerdydd wedi llwyddo i arwyddo chwaraewyr o safon i lenwi eu hesgidiau sylweddol.
Yr haneri rhyngwladol Callum Sheedy ac Aled Davies yw dau o’r chwaraewyr newydd sydd yn sefyll allan, tra bod Dan Thomas, Ed Byrne, Rory Jennings ac Iwan Stephens yn cynnig profiad allweddol ar draws y maes.
Gweilch
Fe fyddai’r cyhoeddiad fis yma mai dyma fydd tymor olaf Toby Booth fel hyfforddwr y Gweilch wedi syfrdanu rhai.
Ers ymuno yn 2020, mae’r Gweilch wedi cryfhau, ac yn cael eu hystyried fel tîm â phac cryf ac amddiffyn digyfaddawd.
Mae datblygiadau arwyddocaol wedi bod oddi ar y cae yn ogystal, wedi i’r rhanbarth gyhoeddi eu bod yn symud i chwarae ar faes Sain Helen yn Abertawe o’r tymor 2025/26.
Mae'r blaenasgellwr ysbrydoledig Justin Tipuric wedi cyhoeddi mai dyma fydd ei dymor olaf fel chwaraewr, ac fe fydd y Gweilch yn benderfynol iddo gael gorffen ar nodyn uchel cyn ymuno fel hyfforddwr yr amddiffyn y tymor nesaf.
Er i George North, Nicky Smith ac Alex Cuthbert ymadael, mae’r clwb wedi recriwtio chwaraewyr o brofiad megis Kieran Hardy, Ryan Conbeer, Steff Thomas a Will Greatbanks.
Lluniau: Asiantaeth Huw Evans