Cipolwg ar gemau nos Wener y Cymru Premier JD
Mae Pen-y-bont wedi torri’n glir ar frig y gynghrair, triphwynt uwchben Met Caerdydd yn yr ail safle, ac yn parhau’n ddi-guro ar ôl saith o gemau y tymor hwn.
Y Seintiau Newydd yw’r unig dîm arall sydd heb golli’n y gynghrair, ac mae’r pencampwyr yn y 4ydd safle bellach gyda tair gêm wrth gefn.
Felly er ei bod hi’n gynnar yn y tymor, mae’n gaddo i fod yn dipyn o frwydr rhwng Pen-y-bont a’r Seintiau Newydd nos Wener, ac honno’n fyw arlein ac ar deledu clyfar.
Nos Wener, 20 Medi
Pen-y-bont (1af) v Y Seintiau Newydd (4ydd) | Nos Wener – 19:45 (Yn fyw arlein)
Er gorffen y tymor diwethaf yn y Chwech Isaf, Pen-y-bont sy’n arwain y pac yn y Cymru Premier JD eleni, yn eistedd ar frig y tabl ar ôl ennill pedair gêm gynghrair yn olynol.
Dyw Pen-y-bont m’ond wedi colli un o’u 17 gêm gystadleuol ddiwethaf, a dim ond dwy gôl y mae tîm Rhys Griffiths wedi eu hildio mewn saith gêm gynghrair y tymor hwn.
Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill pob un o’u pedair gêm gynghrair hyd yma, ond oherwydd prysurdeb y gemau Ewropeaidd mae gan y pencampwyr dair gêm gynghrair wrth gefn.
Ar ôl curo’r Barri o 4-0 y penwythnos diwethaf, mae cewri Croesoswallt bellach wedi ennill 30 gêm gynghrair yn olynol, ac heb golli’n y Cymru Premier JD ers Chwefror 2023 (Met 3-2 YSN).
Mae’r clybiau yma wedi cyfarfod ar 19 achlysur, a dyw’r Seintiau erioed wedi colli yn erbyn tîm Rhys Griffiths (ennill 15, cyfartal 4), gan sgorio 12 gôl yn eu tair gornest ddiwethaf.
Roedd ‘na lwyddiant i’r ddau glwb yng nghanol wythnos wrth i Ben-y-bont guro Hwlffordd yn nhrydedd rownd Cwpan Nathaniel MG, a’r Seintiau’n curo Airbus UK.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ͏➖✅✅✅✅
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅
Y Bala (5ed) v Y Drenewydd (3ydd) | Nos Wener – 19:45
Bydd Y Bala’n anelu i ddringo uwchben Y Drenewydd nos Wener gyda’r ddau dîm yn llygadu lle yn y Chwech Uchaf unwaith eto eleni.
Dim ond dau chwaraewr sydd wedi creu mwy na dwy gôl yn y gynghrair y tymor hwn, a bydd y ddau asgellwr rheiny yn mynd benben ar Barc Latham, sef Zeli Ismail (5) ac Osebi Abadaki (4).
Dyw’r Bala heb golli yn eu tair gêm flaenorol yn erbyn Y Drenewydd, ac fe sgoriodd Louis Robles i’r Robiniaid yn erbyn Y Bala yn y ddwy ornest ddiwethaf, cyn symud o’r Drenewydd yn ôl i Faes Tegid dros yr haf.
Ar ôl sgorio ei gôl gyntaf yn y gynghrair y penwythnos diwethaf yn erbyn Aberystwyth, fe sgoriodd Hussein Mehasseb ddwywaith eto i’r Bala nos Fawrth yn eu buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Treffynnon yng Nghwpan Nathaniel MG.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅➖❌❌✅
Y Drenewydd: ͏❌✅❌✅✅
Aberystwyth (11eg) v Hwlffordd (6ed) | Nos Wener – 20:00
Mae Aberystwyth wedi syrthio i safleoedd y cwymp yn dilyn rhediad rhwystredig o bedair colled yn olynol yn y gynghrair.
Does neb wedi sgorio llai o goliau na’r Gwyrdd a’r Duon y tymor hwn (4 gôl mewn 7 gêm) a bydd angen gwella’r canlyniadau’n fuan os am osgoi tymor hir arall tua’r gwaelodion.
Ar ôl dechrau addawol i’r tymor mae dwy golled yn olynol yn golygu bod Hwlffordd wedi llithro i’r 6ed safle.
Mae goliau wedi bod yn bethau prin yng ngemau cynghrair Hwlffordd y tymor hwn gyda un gôl neu lai wedi ei sgorio mewn pump o’u saith gêm hyd yn hyn.
Dyw Hwlffordd m’ond wedi colli un o’u saith gornest flaenorol yn erbyn Aberystwyth, ond daeth y golled honno ar eu hymweliad diwethaf â Choedlan y Parc ‘nôl ym mis Chwefror (Aber 1-0 Hwl).
Roedd yna ddrama hwyr yn Aberystwyth nos Fawrth wrth i Jonathan Evans rwydo ddwywaith yn y munudau olaf yn erbyn Llandudno i gadarnhau eu lle yn nhrydedd rownd Cwpan Nathaniel MG, ond colli oedd hanes Hwlffordd yn erbyn Pen-y-bont.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ͏✅❌❌❌❌
Hwlffordd: ➖͏➖✅❌❌