Newyddion S4C

Dynes o Ben Llŷn yn cyfaddef i bedwar achos o esgeuluso plant

Llys Caernarfon

Mae dynes 33 oed o Ben Llŷn wedi cyfaddef i bedwar achos o esgeuluso plant wedi i’r heddlu ddweud bod ei chartref mewn “cyflwr oedd yn peri gofid mawr”.

Clywodd Llys Ynadon Caernarfon bod carthion dynol neu anifeiliaid yn yr ystafelloedd gwely.

Roedd cymdogion wedi codi pryderon ar ôl clywed larwm tân a gweld dau blentyn noethlymun yng nghyntedd yr adeilad.

Dywedodd yr erlynydd Helen Hall bod yr adeilad mewn cyflwr “oedd yn peri gofid mawr” ac nad oedd yr heddlu yn gwybod pwy neu beth oedd yn gyfrifol am y carthion.

Roedd y ddynes yn aflonyddgar yn ystod y gwrandawiad llys. 

Cafodd ei chadw ar fechnïaeth amodol tan iddi gael ei dedfrydu ar 11 Hydref gan farnwr Llys y Goron. 

Cafwyd cais am adroddiad i'r achos cyn ei dedfrydu.

Dywedodd y fenyw, a oedd yn ddagreuol ar adegau ac wedi mynd i’r llawr yn y doc, wrth yr ynadon: “Fe wnai beth dwi eisiau.”

Does dim modd enwi’r ddynes na'r plant am resymau cyfreithiol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.