Newyddion S4C

Pobl yn ymddangos yn y llys wedi’u cyhuddo o derfysg yn Nhrelái

Gwrthdrawiad Trelái

Mae’r grŵp gyntaf o bobl sydd wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad a'r terfysg a ddilynodd marwolaethau dau fachgen yn Nhrelái y llynedd wedi ymddangos yn y llys.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16 oed, a Harvey Evans, 15 oed, ar 22 Mai 2023 ar ôl gwrthdrawiad ar feic trydan. Roedd lluniau CCTV yn dangos y ddau yn cael eu dilyn gan fan Heddlu De Cymru munudau cyn y gwrthdrawiad, yn Nhrelái, yng Nghaerdydd.

Cafodd swyddogion heddlu eu hanafu, ceir eu llosgi ac eiddo ei ddifrodi mewn terfysg yno, ar ôl tensiwn rhwng pobl leol a swyddogion.

Lianna Tucker, 18, o Drelái, oedd y person cyntaf i ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau, wedi ei chyhuddo o gymryd rhan yn y terfysg.

Cafodd achos Tucker, ynghyd ag achos pawb arall a ymddangosodd gerbron y llys ar gyhuddiad o derfysg, ei anfon i Lys y Goron Caerdydd.

Roedd disgwyl i 18 o bobl ymddangos gerbron y llys ddydd Iau, gyda mwy yn ymddangos ddydd Gwener.

Y rhai a wnaeth ymddangos fore Iau oedd: Michalea Gonzales, 26, o Drelái; Jaydan Baston, 20, o Gaerau; Harvey James, 18, o'r Tyllgoed; Jumana Fouad, 18, o Drelái; Jordan Webster, 28, o Drelái; Kieron Beccano, 25, o Sain Ffagan; Luke Williams, 30, o Drelái; Jayden Westcott 20, o Drelái; Zayne Farrugia, 24, o Gaerau; a Kyle Telemaque, 18, o Drelái.

Dywedodd y barnwr Stephen Harmes: “Rwy’n eich anfon i Lys y Goron ar 21 Hydref. Os nad ydych chi'n ymddangos, mi fydd warant i’ch arestio. 

"Fe wnaethoch chi ymddangos heddiw felly nid oes rheswm i chi beidio a gwneud bryd hynny.”

Cafodd bob un eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae 31 o bobl wedi eu cyhuddo o droseddau – 27 wedi’u cyhuddo o derfysg a phedwar wedi eu cyhuddo o achosi neu bygwth achosi difrod troseddol. 

Mae wyth o’r rheini sydd wedi eu cyhuddo rhwng 15 ac 17 mlwydd oed.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.