Gwyliwch: Ben Davies a Brennan Johnson yn serennu dros Spurs
Ben Davies a Brennan Johnson oedd y sêr i Tottenham Hotspur nos Fercher wrth iddyn nhw gyrraedd pedwaredd rownd Cwpan yr EFL.
Fe wnaeth y Cymry chwarae rhan hollbwysig yn erbyn Coventry, a ddechreuodd gyda chapten y noson Ben Davies yn atal gôl trwy flocio'r bêl oddi ar y llinell.
Inline Tweet: https://twitter.com/SkyFootball/status/1836499344918212802
Ar ôl i Fraser Forster gwibio allan o'i gôl a methu'r bêl, roedd gan Hagi Wright cyfle euraidd i sgorio, cyn i Davies rhuthro nôl a'i rwystro rhag sgorio.
Fe fyddai'r weithred wedi atgoffa cefnogwyr Cymru o'r bloc arwrol a lwyddodd i gyflawni yn erbyn Slofacia yng ngêm agoriadol Euro 2016.
Yna ar ddiwedd y gêm, tro un o Gymry eraill Spurs oedd hi i serennu.
Wedi iddo dderbyn sylwadau negyddol gan gefnogwyr cyn y gêm, fe wnaeth Brennan Johnson ymateb drwy sgorio'r gôl fuddugol ar y noson.
Inline Tweet: https://twitter.com/SkyFootball/status/1836508580041674880
Gyda 92 munud ar y cloc, fe wnaeth yr asgellwr grymanu'r bêl i gornel y rhwyd a sicrhau lle Spurs yn rownd nesaf y gystadleuaeth.