Newyddion S4C

Gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth yn ymweld ag Everest i brofi a yw'r eira yno'n toddi

Prifysgol Aberystwyth Mynydd Everest

Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn mynd i Fynydd Everest y flwyddyn nesaf i brofi a yw’r eira yno’n toddi.

Er bod tymheredd yr aer yn dipyn yn is na sero ar fynydd uchaf y Ddaear, y gred yw y gallai’r eira fod yn toddi yno.

Mae hyn o achos rhywbeth o'r enw ymbelydredd ton-fer naturiol, sef yr ymbelydredd sy'n cael ei dderbyn gan yr haul.

Os ydy’r ddamcaniaeth yn cael ei phrofi'n gywir, gallai awgrymu bod y rhewlifoedd ym mynyddoedd yr Himalaya yn dadmer yn gyflymach na’r disgwyl.

Fe all hynny arwain at yr argaeau sy’n ffurfio ar y rhewlifoedd dorri.

Fe fydd y prosiect ar y cyd rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Leeds yn dilyn canfyddiadau blaenorol a ddangosodd bod tymheredd yr iâ yn Rhewlif Khumbu ar y mynydd yn gynhesach na’r disgwyl.

'Allai peryglu bywydau'

Dywedodd yr Athro Bryn Hubbard o Brifysgol Aberystwyth bod deall beth sy'n digwydd i'r eira ar y mynydd yn bwysig.

“Dwi'n gwybod y byddai’n dipyn o syndod i lawer bod eira yn toddi ar Everest, ond dyna sydd angen ymchwilio iddo os ydyn ni’n mynd i ddeall effeithiau newid hinsawdd sydd â chymaint o oblygiadau i gynifer o bobl ledled y byd.

“Mae deall beth yn union sy’n digwydd y tu mewn i’r rhewlifoedd hyn yn hanfodol wrth ddatblygu modelau cyfrifiadurol o’u hymateb i’r newidiadau hinsoddol ac rydym ni'n eu rhagweld.

"Mae hefyd yn bwysig meithrin gwell dealltwriaeth o sut y maent yn llifo fel bod modd i ni ragweld yn well pryd mae’r argaeau sy’n ffurfio ar y rhewlifoedd hyn yn debygol o dorri, gan ryddhau llifeiriant o ddŵr i’r dyffrynnoedd islaw allai beryglu bywydau.

"Mae hyn yn risg gwirioneddol ym mynyddoedd yr Himalaya, fel y mae mewn ardaloedd eraill megis yr Andes, ac mae ganddo’r potensial i beryglu bywydau miloedd o bobl.”

Mae rhewlifoedd ym mynyddoedd uchaf y blaned yn ffynhonnell dŵr pwysig -  mae tua un biliwn o bobl yn dibynnu ar iâ mynyddoedd yr Himalaya gan gynnwys y rheini sy’n byw yn India, Myanmar, Pacistan a Bangladesh.

Pe bai’n wir fod y rhewlifoedd yn dadmer yn gynt, yna gallai fygwth y cyflenwad dŵr i'r bobl hyn.

Perygl arall fyddai rhagor o lifogydd o ganlyniad i fethiant argaeau iâ naturiol.

Fel rhan o’r ymchwil bydd yr Athro Bryn Hubbard o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth yn mynd â thîm i’r Cwm Gorllewinol, hanner cilomedr uwch ben gwersyll cyntaf Everest, er mwyn drilio i samplo’r iâ.

Mae disgwyl i’r academyddion fynd ar eu taith ymchwil gyntaf yn y Gwanwyn y flwyddyn nesaf er mwyn dechrau’r samplo ynghyd â gosod gorsafoedd tywydd newydd yno.

Llun: Prifysgol Aberystwyth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.