A oes angen gwneud mwy i warchod a dathlu tafarndai Caerdydd?
A oes angen gwneud mwy i warchod a dathlu tafarndai Caerdydd?
Rhai o dafarndai amlycaf Caerdydd.
Ers canrifoedd yn fan cyfarfod am beint, sgwrs a rhoi'r byd yn ei le.
Ond, a oes angen gwneud mwy i warchod a dathlu'r adeiladau sy'n rhan mor ganolog o ddiwylliant y Brifddinas?
Mae'n 12 mlynedd bellach ers i dafarn y Vulcan yn Adamsdown gael ei dymchwel i wneud lle i faes parcio.
Ond yn gynharach eleni, agorodd ei drysau unwaith eto yn Amgueddfa Sain Ffagan ac yn gofnod o hanes tai tafarn yr ardal.
Pa gyfnod mae'r dafarn yma'n dyddio?
"Codwyd yn tua 1830.
"Cafodd ei gofrestru gyntaf fel tafarn yn 1853.
"Yr adeiladau, ynghyd â'r gymuned, sy'n rhoi nodwedd i'r ardal.
"Maen nhw'n holl bwysig fel canolfannau cymdeithasol.
"Ond hefyd, i ddangos i ni sut oedd bywyd yn y gorffennol.
"Maen nhw'n rhan bwysig o olwg ardal."
Er mwyn gwarchod adeiladau tebyg, mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi dewis 71 o dafarndai a chyn-dafarndai i'w rhoi ar restr dreftadaeth leol.
Mae'r adeiladau wedi'u dewis am y ffordd maen nhw'n edrych eu cyfraniad i'r ddinas a'u cyfraniad hanesyddol.
Un o'r rheiny ar y rhestr ydy'r Lansdowne yn Nhreganna.
"Mae'r tafarndai yn Canton a llawer o Gaerdydd yn ganolbwynt i'r gymuned.
"Mae'n neis bod nhw'n meddwl amdani.
"Ni wedi colli llawer o dafarndai yn barod.
"Guildford Terrace yn un esiampl, maen nhw 'di taro fe lawr.
"Mae'n bwysig tanlinellu dim ond cadw'r adeilad yw'r testun 'ma dim y busnesau ond mae'n step ar y ffordd iawn."
Mae'r rhestr hir hefyd yn cynnwys adeiladau sydd wedi newid defnydd, fel gwesty'r Neville yn Grangetown sydd bellach yn siop gornel.
"Mae'r system yn wahanol yng Nghymru i beth sy'n Lloegr o ran gallu mynnu bod yr adeilad yn parhau fel tafarn.
"Yn sicr, mae'r cynnig yma'n mynd i roi mwy o amddiffynfeydd o ran beth sy'n digwydd i'r adeilad ei hunan."
Pa werth sydd yna i dafarndai i fod ar y rhestr yma?
"Mae'n bwysig iawn sylweddoli'r gwahaniaeth rhwng y broses o restrau lleol sy'n rhoi peth amddiffyniad i'r adeilad mewn cyferbyniad gyda be sy'n digwydd o fewn yr adeilad.
"Yn sicr, bydd yn rhoi mwy o rym i'r Cyngor i amddiffyn yr adeilad yn benodol."
Wrth i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben y gobaith yw y bydd croeso yn nhafarndai'r Brifddinas am flynyddoedd i ddod.