Ai codi ffioedd ydy'r ateb mewn prifysgolion?
Ai codi ffioedd ydy'r ateb mewn prifysgolion?
Digon o heulwen a fawr ddim myfyrwyr oedd ym Mhrifysgol Bangor heddiw.
Bydd hynny'n newid o'r wythnos nesaf 'mlaen.
Dyma ddau sydd 'di achub y blaen a dod yn ôl yn barod.
Er nad oes cyhoeddiad newydd am godi'r ffioedd byddan nhw'n talu sut maen nhw'n teimlo i glywed bod dros 100 o brifysgolion Prydain yn awgrymu bod angen codi'r ffioedd?
"'Sa fo'n gam gwag gan y prifysgolion i wneud hynna.
"Mae £9,000 yn ddigon fel mae hi.
"Bydd gennym ni ddyled pan fyddwn ni'n gadael y Brifysgol yn barod.
"Byddai codi'r ffioedd yna ddim yn gwneud gwahaniaeth i ni gan bod ni wedi cychwyn ar ein cwrs yn barod ond i'r rheiny sy'n meddwl dod i'r Brifysgol o'r Chweched Dosbarth ar draws y wlad.
"Ella fysa hynna'n rhoi nhw ffwrdd."
"'Dan ni'n barod fel Prifysgol wedi gweld llai yma ym Mangor yn dod mis Medi.
"Mae 'na 'chydig o breeder o ran y myfyrwyr Cymraeg.
"Dw i ddim yn gwybod os bydde'r ffioedd uchel yn gwneud i bobl ailystyried."
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru godi'r uchafswm ar gyfer ffioedd yn gynharach eleni ac fel all prifysgolion godi hyd at £9,250 y flwyddyn, yr un fath a Lloegr.
Ond mae Corff Prifysgolion Cymru wedi dweud bod costau'n codi yn gyflymach nag incwm, ac oherwydd newidiadau yn y rheolau mewnfudo, mae llai o fyfyrwyr o dramor yn dod yma i astudio bellach.
Ond ai codi ffioedd ydy'r ateb?
"Mae rhai yn deud bydd dyledion o dros £100 miliwn yn y sector addysg uwch yng Nghymru.
"Dydy pethau ddim yn medru aros fel maen nhw.
"Y cwestiwn ydy, ydy codi ffioedd i fyfyrwyr ar adeg pan mae costau byw yn uchel iawn y peth iawn i wneud?
"Mae'n syniad cymryd stepan yn ôl i wneud archwiliad fel dw i wedi bod yn gofyn amdano ers dros naw mis i'r sector addysg uwch yng Nghymru ac edrych be ydy'r peth iawn i'r prifysgolion a'r myfyrwyr sydd yn barod yn mynd i ddyledion mawr ar ôl bod mewn prifysgolion yma yng Nghymru a Lloegr."
Mae nifer y bobl ifanc yng Nghymru sy'n gwneud cais am le prifysgol wedi mynd i lawr fel mae.
Yn ôl y corff sy'n arolygu ceisiadau am lefydd prifysgol rhyw un ym mhob tri o bobl ifanc ifanc 18 oed oedd wedi gwneud cais am le prifysgol erbyn diwedd Mehefin eleni.
A hynny'n cymharu â dros bedwar ym mhob deg ar draws y DU.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bo nhw'n dal i weithio gyda'r sector i gefnogi addysg uwch a dod o hyd i atebion cynaliadwy.
Bydd y ddau yma'n gobeithio graddio'r haf nesa er y gost o gael astudio.