Chwe newid i dîm rygbi merched Cymru cyn herio Awstralia
Mae Prif Hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru Ioan Cunningham wedi cyhoeddi chwe newid ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia ddydd Gwener.
Dyma fydd gêm baratoadol olaf y tîm cyn cystadlu yn y WXV2 ddiwedd y mis.
Y mewnwr Keira Bevan fydd yn gapten ar y tîm, gyda chwe newid yn cael eu gwneud i'r 15 a ddechreuodd yn erbyn Yr Alban bythefnos yn ôl.
Bydd Rosie Carr yn dechrau ei gêm gyntaf dros Gymru yn safle'r bachwr, gyda Gwenllian Pyrs a Sisilia Tuipulotu yn cael eu dewis fel propiau.
Abbie Fleming a Georgia Evans sydd wedi eu dewis yn yr ail reng, a'r blaenasgellwr Bryonie King yn y rheng ôl gyda Kate Williams a Bethan Lewis.
Fe fydd Keira Bevan, y capten, a Lleucu George yn dechrau fel haneri, a Hannah Bluck a Carys Cox yn bartneriaid yng nghanol y cae.
Jasmine Joyce a Nel Metcalfe fydd ar yr esgyll a Jenny Hesketh yn cael ei dewis i gwblhau'r tîm.
Mae Hannah Jones, a fydd yn arwain y garfan ar gyfer y WXV yn Ne Affrica, a'r bachwr Carys Phillips wedi cael eu gorffwys ar gyfer y gêm.
Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: "Gyda’r garfan ar gyfer y WXV wedi’i dewis, ‘ry’n ni wedi enwi tîm profiadol i herio Awstralia yn Rodney Parade nos Wener.
“Mae’r chwaraewyr wedi gweithio’n galed wrth ymarfer, ac mae hwn yn gyfle gwych i weld ble maen nhw’n gorfforol cyn i ni deithio i Dde Affrica.
“Bydd Awstralia a ninnau’n edrych am berfformiad da nos Wener – cyn i ni wynebu’n gilydd unwaith eto yn y WXV mas yn Cape Town ymhen rhyw bythefnos.”
Bydd y gêm yn cael ei chwarae yn Rodney Parade yng Nghasnewydd, gyda'r gic gyntaf am 19:00.