Dŵr Cymru i ddod o dan Safonau Comisiynydd yr Iaith Gymraeg
Fe fydd yn rhaid i gwmni Dŵr Cymru ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2025.
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi y bydd yna ddyletswydd cyfreithiol ar Dŵr Cymru a chwmni dŵr Hafren Dyfrdwy, i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn Awst y flwyddyn honno.
Dyma fydd y tro cyntaf i safonau'r Gymraeg ddod i rym ar gyfer sefydliadau y tu hwnt i'r sector cyhoeddus.
Daw'r ddyletswydd wrth i'r cwmnioedd weithredu o dan Safonau Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, ac fe fyddant yn annog eu cwsmeriaid i gysylltu â nhw yn y Gymraeg.
Mae modd i gwsmeriaid Dŵr Cymru gysylltu â'r cwmni mewn amryw o ffyrdd, gyda phob un yn cael gwahoddiad i nodi eu dewis iaith trwy wasanaethau ar-lein hefyd.
Dywed y cwmni bod modd iddynt drefnu ymweliadau cartref gan gynrychiolwyr sy'n siarad Cymraeg ar gyfer gwasanaethau, gan gynnwys chwilio i weld a oes dŵr yn gollwng a thrwsio diffygion.
Dywedodd Pete Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: "Rydyn ni wedi dangos ymrwymiad hirsefydlog i’r Gymraeg yn Dŵr Cymru, ac rydyn ni’n llwyr gefnogi cynllun hirdymor y Comisiynydd i sicrhau bod pobl yn cael defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau, ac ym mhob rhan o Gymru.
"Mae hi’n bwysig i ni ein bod ni’n darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid yn ddwyieithog, ac rydyn ni eisoes yn weithgar iawn yn hynny o beth cyn i’n dyletswydd gyfreithiol ddod i rym yr haf nesaf."
Dywedodd Louise Moir, Arweinydd Profiad Cwsmer a Strategaeth yn Hafren Dyfrdwy: “Fel cwmni sydd yn nghalon Powys a Wrecsam, rydym yn llawn ymwybodol o bwysigrwydd gallu cynnig ein gwasanaethau i’n cwsmeriaid yn eu dewis iaith ac mae hynny ar waith eisoes ac rydym wedi ymrwymo i barhau felly.
"Mae ein cynlluniau iaith yn dystiolaeth amlwg o’n hymrwymiad ac wrth i ni ddod o dan y Safonau yn y dyfodol edrychwn ymlaen i adeiladu ar y llwyfan cadarn hwnnw.”