Cynlluniau teithio llesol Llywodraeth Cymru 'yn bell o gael eu gwireddu'
Mae cynlluniau teithio llesol Llywodraeth Cymru 'ymhell o gael eu gwireddu' yn ôl adroddiad newydd.
Mae teithio llesol yn disgrifio beicio a cherdded ar gyfer teithiau pob dydd i weithle neu ysgol neu er mwyn defnyddio gwasanaethau iechyd neu hamdden.
Mae adroddiad gan Archwilio Cymru yn dweud nad yw'r prif gyfraddau teithio llesol wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf, a bod angen rhagor o dystiolaeth i dracio cynnydd ac asesu gwerth am arian.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £65 miliwn ar gael i'w cynlluniau teithio llesol yn 2024-25, ond dywed yr adroddiad nad yw'r 'darlun llawnach' o ran gwariant gan y llywodraeth ar deithio llesol yn eglur.
Bwriad Deddf Teithio Llesol Cymru 2013 ydy cynyddu cyfraddau teithio llesol, gan osod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol.
'Newid sylweddol'
Cafodd y Gronfa Teithio Llesol ei sefydlu yn 2018, gyda'r bwriad o helpu awdurdodau lleol i ddatblygu a chyflawni gwelliannau i seilwaith teithio llesol.
Cynyddodd y gwariant blynyddol o'r gronfa yn sylweddol rhwng 2018-19 a 2023-24, ond mae'r llywodraeth 'yn dal i fod ymhell o gyflawni’r newid sylweddol mewn teithio llesol' yn ôl yr adroddiad.
Yn 2022-23, dywedodd 51% o bobl eu bod yn cerdded o leiaf unwaith yr wythnos ar gyfer dibenion teithio llesol, o gymharu â 60% yn 2019-20.
Mae'r adroddiad yn cynnwys nifer o feysydd i'w gwella, gan gynnwys trefniadau arwain cenedlaethol a materion o ran capasiti mewn awdurdodau lleol.
'Mwy na degawd'
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: "Mae angen i Lywodraeth Cymru fyfyrio ynghylch pam, mewn mwy na degawd, nad yw’r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) a’r trefniadau i roi cymorth i gyflawni wedi cael yr effaith a ddymunir eto.
"Mae ffactorau amrywiol yn dylanwadu ar ymddygiad teithio llesol ar draws ystod o feysydd polisi."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Hoffwn ddiolch i’r Swyddfa Archwilio am ei adroddiad. Byddwn yn ystyried yr argymhellion ac yn ymateb yn ffurfiol maes o law.”
Llun: Pixabay