Galw ar Lywodraeth Cymru 'i fynd i'r afael â'r prinder tai'
Mae dwy o elusennau blaenllaw wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r prinder tai yn y wlad.
Mae adroddiad newydd gan Sefydliad Bevan a Shelter Cymru yn datgelu fod un o bob 215 o aelwydydd yng Nghymru bellach yn byw mewn llety dros dro - cynnydd o 18% yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth eleni.
Dywed yr elusennau nad oes gan awdurdodau lleol "yn aml unrhyw ddewis ond dibynnu ar lety dros dro" a hynny oherwydd "methiant degawdau" i adeiladu'r cartrefi cymdeithasol sydd eu hangen.
Mae'r sefyllfa wedi gwaethygu oherwydd costau rhent cynyddol, yr argyfwng costau byw a'r system les, yn ôl yr elusennau.
Mae'r adroddiad yn nodi pryderon am effaith llety dros dro ar blant hefyd.
Dywed yr adroddiad fod bron i 3,000 o blant yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru gyda'u teulu, gyda thraean o'r rhain wedi bod mewn llety o'r fath ers dros flwyddyn.
Mae'r elusennau yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys er mwyn rhoi cartrefi i bobl drwy wella'r cyflenwad o dai cymdeithasol.
'Pwysau aruthrol'
Dywedodd Wendy Dearden, Uwch Swyddog Polisi ac Ymchwil, Sefydliad Bevan: "Mae cost ddynol ein hargyfwng tai yn amlwg yn y niferoedd cynyddol heb unman parhaol i’w alw’n gartref.
"Rydym yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn gwneud eu gorau glas i helpu pobl, ond mae prinder tai fforddiadwy iddynt symud iddyn nhw yn rhoi pwysau aruthrol ar y system."
Ychwanegodd Robin White, Pennaeth Ymgyrchoedd, Shelter Cymru: "Gwyddom nad yw awdurdodau lleol am fod yn ddibynnol ar lety gwely a brecwast ac atebion drud, tymor byr eraill.
"Dyna pam mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mynd i’r afael â’r argyfwng tai yn flaenoriaeth drawslywodraethol a buddsoddi ymhellach i ddarparu’r cartrefi cymdeithasol y mae dirfawr eu hangen ar Gymru.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n cael eu cefnogi gyda llety dros dro yn adlewyrchu’r pwysau parhaus o fewn y system ac effeithiau’r argyfwng costau byw ar unigolion a chartrefi.
“Er gwaethaf yr heriau, rydyn ni’n parhau i fabwysiadu dull ‘nad oes neb yn cael eu gadael allan’ yng Nghymru ac, eleni yn unig, rydyn ni’n buddsoddi bron i £220m mewn i atal digartrefedd a chymorth tai i helpu lleihau’r llif o bobl sydd angen llety dros dro.”