‘Canolbwynt y gymuned’: Ymgyrch i achub tafarn hanesyddol ym mhentref Llanfrothen
Mae ymgyrch wedi dechrau i brynu tafarn o’r 17eg ganrif ym mhentref Llanfrothen yng Ngwynedd.
Gobaith ymgyrchwyr yw prynu les Y Brondanw Arms, tafarn sy’n cael ei adnabod fel Y Ring yn lleol, er mwyn ei redeg fel menter gymunedol.
Mae'r dafarn yn ran o Ystâd Brondanw, a gafodd ei sefydlu gan bensaer pentref Eidalaidd Portmeirion, Syr Clough Williams-Ellis.
Fe wnaeth dros 200 o bobl gyfarfod yn Llanfrothen ddydd Llun i sefydlu menter newydd, gyda'r nod o sicrhau cefnogaeth ariannol ar gyfer prynu'r les.
Erbyn hyn, mae Menter Y Ring wedi llwyddo i ddenu digon o fuddsoddwyr i godi’r swm o £110,000 sydd ei angen i brynu’r les 56 mlynedd.
Ond mae’r ymgyrchwyr yn gobeithio codi hyd at £200,000 er mwyn cryfhau’r cynnig – ac mae'n rhaid ei gyflwyno yr wythnos nesaf.
‘Canolbwynt y gymuned’
Yn ôl Steffan Smith, 33, sy’n aelod o’r fenter ac wedi byw yn Llanfrothen drwy gydol ei oes, mae’r dafarn yn hollbwysig i'r ardal.
“Mae’r dafarn yn ganolbwynt i’r gymuned a wastad wedi bod ac yn adnabyddus y tu hwnt i’r ardal fel lle i gael ‘chydig bach o hwyl,” meddai.
“'Da ni’n teimlo bo’ ni bia fo beth bynnag, felly dyma gyfle i wneud hynny’n swyddogol – ‘sa fo’n teimlo fel bod pethau’n dod yn iawn.”
Ychwanegodd Steffan ei bod yn “bwysig” cael llefydd i’r iaith Gymraeg ffynnu o fewn cymunedau bach.
“Mae’r dafarn yn le hynod o bwysig i bobl ddod at ei gilydd ar draws ein cymuned fach lle does ‘na ddim llawer o fannau cyhoeddus,” meddai.
“O ran yr iaith, mae mwyafrif o bobl y gymuned yn gallu siarad Cymraeg, felly mae’n bwysig cael gofodau lle da ni’n gallu gwneud hynny.”
Fe gafodd Menter Y Ring ei hysbrydoli i achub y dafarn yn dilyn sawl ymgyrch llwyddiannus gan gymunedau eraill i droi eu tafarndai yn fentrau cymunedol.
Mae’r rheini’n cynnwys Tafarn Y Plu yn Llanystumdwy, a Thafarn y Fic yn Llithfaen.
Dywedodd Steffan bod y pwyllgor yn cyfarfod nos Fercher i drafod cyflwyno’r cynnig.
Wedyn, mae’r pwyllgor yn gobeithio y bydd modd gwerthu cyfranddaliadau yn y fenter.
Mae cryn dipyn o waith i'w wneud, ond yn ôl Steffan, doedd dim opsiwn arall.
“'Da ni ddim eisiau gadael o i siawns – heb ni’n sefyll mewn i wneud wbath efo’r dafarn, does 'na ddim rheolaeth dros le eith o,” meddai.