Pryder am nifer y siaradwyr Cymraeg sydd wedi gadael Ynys Môn
Mae nifer y siaradwyr Cymraeg sydd wedi gorfod gadael Ynys Môn i chwilio am waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn destun pryder, yn ôl dirprwy arweinydd cyngor yr ynys.
Wrth alw ar Lywodraeth y DU i roi ymrwymiad pendant y bydd datblygiad niwcliar newydd yn digwydd ar safle'r Wylfa, dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard bod cannoedd o swyddi wedi eu colli ers dechrau dadgomisiynu'r hen atomfa yn 2015.
“Mae’r ffaith bod cyflogwyr eraill wedi cau eu drysau, fel Rehau ac Octel yn Amlwch, hefyd wedi cyfrannu at y dirywiad economaidd yng ngogledd Ynys Môn yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf," meddai.
"Mae'r diffyg swyddi yn dilyn hynny wedi gorfodi pobl o oed gwaith, llawer ohonynt yn siaradwyr Cymraeg, i symud o’r ardal gyda’u teuluoedd – gan adael poblogaeth sy’n heneiddio ac economi sydd mewn trafferthion.”
'Buddsoddiad'
Mae ystadegau'r cyfrifiad yn dangos bod gostyngiad o 4 y cant wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ardaloedd Amlwch a Llannerch-y-medd rhwng 2011 a 2021.
Yn ôl y cyngor mae adroddiad diweddar ganddyn nhw am sefyllfa economaidd a chymdeithasol gogledd yr ynys yn dangos fod yr ardal "wedi profi dirywiad hir yn ystod y ddau ddegawd diwethaf".
Cafodd 485 o swyddi eu colli rhwng 2015 a 2021.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Dylan J Williams: “Ni all y Cyngor Sir na’r sector cyhoeddus adfywio gogledd Ynys Môn ar eu pen eu hunain.
"Mae denu buddsoddiad newydd gan y sector preifat yn hanfodol, ac mae datblygiad niwclear newydd yn Wylfa yn gyfle i sicrhau newid tymor hir sylweddol.”
Mae poblogaeth yr ardal hefyd wedi heneiddio'n sylweddol, gyda cynnydd o 30% yn nifer y bobl dros 65 oed rhwng 2011 a 2021, o'i gymharu a chynnydd o 18% yng Nghymru'n gyffredinol dros yr un cyfnod.
Bellach mae'r nifer o bobl sydd dros 50 oed yn yr ardal ddwbwl y nifer sydd rhwng 25 a 49 oed.