Newyddion S4C

Anghydfod gyrrwyr trenau'n dod i ben

18/09/2024
Baner Undeb Aslef

Mae gyrrwyr trenau wedi pleidleisio i dderbyn cynnig cyflog newydd, gan ddod ag anghydfod sydd wedi  para am ddwy flynedd i ben.

Roedd gyrrwyr mewn 16 o gwmniau wedi bod yn rhan o weithredu diwydiannol wnaeth arwain at 18 diwrnod o streicio.

Dywedodd undeb Aslef bod 96% o'r aelodau gymerodd ran yn y bleidlais wedi cefnogi'r cynnig o godiad cyflog o 15% dros dair blynedd. Roedd 84% o'r aelodau wedi pleidleisio.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Mick Whelan: "Mae'n bleser mawr gallu cyhoeddi diwedd y streic hiraf mewn hanes gan yrrwyr tren.

"Doedd hon ddim yn frwydr wnaethon ni gychwyn, nac yn un roedden ni eisiau. Y cwbl oedden ni eisiau oedd  rhoi tolc yn ein costau byw, wedi pum mlynedd o weithio heb  godiad cyflog i gwmniau preifat oedd yn gwneud miliynau o bunnau o elw ac yn rhannu arian i gyfranddalwyr."

Daeth y cynnig cyflog newydd ychydig wythnosau wedi i lywodraeth newydd Keir Starmer gael ei hethol.

Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth llywodraeth y DU, Louise Haigh:"Bydd hyn yn sicrhau gwasanaeth mwy dibynadwy  trwy ddiogelu teithwyr rhag streiciau cenedlaethol. Yn allweddol, mae'n agor y ffordd i newidiadau hanfodol - gan gynnwys moderneiddio arferion gwaith hen ffasiwn - i sicrhau rheilffyrdd sy'n perfformio'n well i bawb." 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

weea

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.