Newyddion S4C

'Wedi gadael argraff': Teyrnged i ddyn 22 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Drefaldwyn

18/09/2024
Alex Edwards

Mae teulu dyn 22 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Drefaldwyn ddydd Llun wedi rhoi teyrnged iddo.

Fe wnaeth Alex James Edwards farw wedi’r gwrthdrawiad ar y B4393 ger Llandrinio am 07.20.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng fan Vauxhall wen a beic modur Kawasaki du.

Roedd y dyn ifanc o Gegidfa yn gweithio fel prentis peiriannydd yn Technocover Ltd yn y Trallwng.

Dywedodd ei deulu fod ganddo “natur gynnes, gyfeillgar a thyner” a’i fod wedi “gadael argraff barhaol ar y rhai a ddaeth i’w adnabod”.

“Bydd y rhai oedd yn ei garu mor annwyl yn gweld eisiau Alex y tu hwnt i eiriau, yn enwedig ei fam Bryony, ei dad Steve, ei chwaer Katherine, ei gariad Macy, ei deulu a’i ffrindiau."

Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r gwrthdrawiad ac yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd y B4393 ger pont Llandrinio ar y pryd i gysylltu â nhw.

Hoffai swyddogion ymchwilio siarad ag unrhyw fodurwyr a oedd yn yr ardal bryd hynny sydd â chamera cerbyd yn eu cerbydau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.