Elusen Sarah Ferguson yn cau wedi i ragor o e-byst i Epstein gael eu cyhoeddi
Mae elusen Sarah Ferguson, cyn-wraig Andrew Mountbatten-Windsor, wedi cyhoeddi y bydd yn cau ar ôl i ragor o fanylion am ei chysylltiad honedig gyda’r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein gael eu cyhoeddi.
Mewn datganiad, dywedodd Sarah’s Trust y byddai’n cau “am y dyfodol rhagweladwy” a hynny “ar ôl misoedd o drafod”.
Cafodd dros dair miliwn o ddogfennau eu cyhoeddi gan Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau ddydd Gwener, gyda sawl un yn awgrymu perthynas rhwng y pedoffeil Epstein ac Andrew a Sarah.
Ymhlith y dogfennau a gafodd eu rhyddhau mae cyfres o e-byst a’u hanfonwyd gan gyn-Dduges Efrog, a hynny ar ôl i Epstein dderbyn euogfarn yn 2008 am droseddau puteindra yn erbyn plant.
Ym mis Awst 2009, mae un e-bost i Epstein gan “Sarah” yn diolch iddo am fod “y brawd yr wyf wastad wedi dymuno ei gael”, gan ychwanegu nad oedd “erioed wedi’i chyffwrdd fwy gan garedigrwydd ffrind.”
Yn Ebrill 2009, fe wnaeth un e-bost gan Sarah ddisgrifio Epstein fel “ffrind arbennig, annwyl”, yr oedd hi “mor falch” ohono.
Mae’r dogfennau hefyd yn cynnwys lluniau sy’n ymddangos fel petaen nhw’n dangos Mr Mounbatten-Windsor yn cyrcydu dros fenyw.
Dyw'r e-byst ddim yn awgrymu unrhyw ddrwg weithredu ac mae'r cyn-dywysog, Andrew Mountbatten-Windsor, wedi gwadu gwneud unrhyw beth o'i le yn y gorffennol.
Elusen
Mewn datganiad nos Lun, dywedodd llefarydd ar ran Sarah’s Trust: “Mae ein cadeirydd Sarah Ferguson a bwrdd yr ymddiriedolwyr wedi cytuno, gyda gofid, y bydd yr elusen yn cau’n fuan am y dyfodol rhagweladwy.
“Mae hyn wedi bod yn cael ei drafod ac ar y gweill ers rhai misoedd.
“Rydym yn parhau i fod yn hynod falch o waith yr ymddiriedolaeth dros y blynyddoedd diwethaf.
“Rydym wedi partneru â dros 60 o elusennau eraill mewn dros 20 o wledydd, gan ddarparu addysg, gofal iechyd, ymateb i argyfyngau a phrosiectau amgylcheddol.
“Fe wnaethon ni ddosbarthu dros 150,000 o barseli cymorth yn ystod pandemig Covid, darparu cymorth meddygol a hyfforddiant i’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfel yn Wcráin a darparu addysg i dros 200 o blant yn Ghana.”