Oedi streiciau corws Opera Cenedlaethol Cymru yn dilyn trafodaethau 'cadarnhaol'
Mae aelodau o gorws Opera Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu ‘oedi’ streiciau arfaethedig yn dilyn trafodaethau ynglŷn ag anghydfod dros swyddi.
Dywedodd undeb Equity na fydd streiciau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer Medi 21 a 29 yn mynd yn eu blaen yn dilyn “trafodaethau cadarnhaol” gyda rheolwyr Opera Cenedlaethol Cymru (OCC) dros yr wythnos ddiwethaf.
Bydd streic sydd wedi ei drefnu ar gyfer Hydref 18 yn mynd yn ei blaen, a bydd aelodau'r corws yn "dal i gymryd camau sy'n brin o streic" trwy gydol y tymor, fel y cynlluniwyd yn wreiddiol.
Dywedodd llefarydd ar ran Equity nad oedd cytundeb "wedi’i gyrraedd eto er gwaethaf oedi'r streiciau”, oedd wedi eu trefnu yn wreiddiol ynghylch pryderon am golli swyddi, toriadau cyflog a diswyddiadau gorfodol.
“Mae aelodau’r corws yn parhau i fod yn bryderus am oblygiadau ac unrhyw weithrediad o gynigion presennol y rheolwyr,” meddai.
“Bydd y saib yn caniatáu amser ar gyfer trafodaethau pellach gyda’r gobaith o ddod i gytundeb gyda rheolwyr OCC sy’n mynd i’r afael â phryderon craidd ynghylch colli swyddi, toriadau cyflog a diswyddiadau gorfodol.”
Dywedodd Simon Curtis, swyddog Equity Cymru: “Rydym wedi’n calonogi gan ymgysylltiad cadarnhaol diweddar gan reolwyr OCC hyd yn hyn, a dyna pam y gwnaeth ein haelodau’r penderfyniad i roi’r gorau i streic.
“Fodd bynnag, nid ydym allan o’r coed eto ac ni ddaethpwyd i gytundeb i sicrhau swyddi a bywoliaeth y corws.”