Lluniau: Y lleuad yn disgleirio ar draws y byd
Mae pobl ar draws y byd wedi rhannu lluniau o'r lleuad ar ôl iddi oleuo'r awyr nos Fawrth.
Roedd modd gweld y lleuad yn glir gan mai dyna oedd yr adeg lle'r oedd agosaf at y ddaear, sy'n cael ei adnabod fel supermoon.
Roedd hefyd diffyg ar y lleuad oedd yn golygu bod cysgod y ddaear yn gorchuddio rhan o'r lleuad.
Fe wnaeth nifer ar draws y DU, America ac Asia rannu eu lluniau o'r lleuad.
Inline Tweet: https://twitter.com/DLSNZ_official/status/1836174206884610075
Roedd modd gweld y diffyg ar y lleuad ym Mhrydain rhwng 01:40 a 05:47.
Ni fydd modd gweld diffyg ar y lleuad nawr tan Awst 2026. Mae disgwyl i 96% o'r lleuad gael ei orchuddio adeg hynny.
Lluniau: Wochit