10 mlynedd ers refferendwm yr Alban: Y canlyniad yn 'lwcus' i YesCymru
Wrth i’r Alban nodi 10 mlynedd ers ei refferendwm ar annibyniaeth, mae un o ffigyrau mwyaf amlwg ymgyrch YesCymru wedi dweud bod Cymru yn "lwcus mewn ffordd na wnaethon nhw ennill".
Roedd Sion Jobbins ymysg yr rheini a deithiodd o Gymru i’r Alban i gefnogi yr ymgyrch yn 2014, ac fe ffurfiodd mudiad YesCymru yn ystod yr ymgyrch honno.
Ond fe bleidleisiodd yr Albanwyr o 55% i 45% o blaid aros yn y DU.
Dywedodd Sion Jobbins fod ganddo deimladau cymysg am y canlyniad.
"O’n i’n meddwl bod e’n wych, yn gyfle i’r Alban adennill annibyniaeth a gobeithio fydde hynny’n rhoi llwybr i Gymru," meddai.
"Ond doedd neb yng Nghymru yn siarad am annibyniaeth bryd hynny, ac roedd hynny’n bryder mawr.
"Felly, i ni, roedd y ffaith bod yr Alban ddim wedi ennill annibyniaeth yn lwcus mewn ffordd, achos fysa ni wedi cael ein claddu o dan San Steffan a Lloegr os fysa’r Alban wedi gadael yn 2014.
“Dw i’n gobeithio bod hwnna ‘di rhoi cic yn din i bobl Cymru i ddechrau trafod pethau o ddifrif."
Yn ôl ystadegau diweddaraf YouGov ym mis Gorffennaf, fe ddywedodd 24% o bobl eu bod yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, tra bod 56% yn dweud na fyddan nhw eisiau gweld Cymru yn wlad annibynnol.
Serch hynny dywedodd Siôn Jobbins, un o sylfaenwyr YesCymru, bod yn rhaid i Gymru ddechrau paratoi i fod yn wlad annibynnol o fewn degawd.
'Llwybr i Gymru'
Mae'r gwleidydd fu’n arwain yr ymgyrch i’r Alban adael y DU wedi dweud y bydd yr Alban yn yn gwneud hynny o fewn y degawd nesaf.
“Dw i’n meddwl y byddwn ni’n annibynnol ymhen 10 mlynedd,” meddai Alex Salmond, Prif Weinidog yr Alban rhwng 2007 a 2014 ac arweinydd y blaid Alba.
“Dw i'n meddwl y byddwn yn edrych yn ôl gan ddweud, ‘diolch byth ein bod wedi cael ail gyfle’. Mae pawb yn haeddu ail gyfle, pob person a phob cenedl.”
Mae Mr Jobbins yn cytuno gyda sylwadau Mr Salmond, gan ddweud bod yn rhaid i Gymru ddechrau paratoi i wneud yr un peth.
"Mae o’n mynd i ddigwydd, mae’r Alban yn mynd i adael," meddai.
"Fy theori fach i ydy bod pethau’n digwydd mewn cylch o tua 18 mlynedd: 18 mlynedd ar ôl refferendwm datganoli Cymru yn 1979, nathon ni bleidleisio dros ddatganoli yn 1997; tua 18 mlynedd cyn 1979, da ni’n cael Swyddfa Gymreig."
Ychwanegodd: "Falle fydd hi tua 2031, ond mae’n mynd i ddigwydd, ac mae’n rhaid i Gymru fod yn barod amdani."
Ond dyw pawb ddim yn awyddus i weld annibyniaeth. Dros yr haf fe wnaeth arweinydd y blaid Geidwadol yng Nghymru, Andrew RT Davies holi barn pobl am ddiddymu'r Senedd. Ar X fe ddangosodd lun o ddwy fwced gyda phobl yn cael dewis rhoi pêl yn y fwced diddymu'r Senedd neu beidio. Dywedodd yn ddiweddarach bod hi'n "bwysig gwybod beth mae pobl yn feddwl."
‘Heriau’
Dywedodd Mr Jobbins bod y mudiad YesCymru wedi dod yn bell ers 2014, gan weld "twf syfrdanol" dros y blynyddoedd diwethaf.
"Roedd Brexit wedi siglo pobl, roedd yn siglad dirfodol - lot o bobl yn ailasesu pam oeddan nhw’n cefnogi Prydeindod, ac ai Prydain yw’r peth gore," meddai.
Ond dywedodd mai'r pandemig wnaeth arwain nifer o bobl at y mudiad, gyda nifer ei aelodau'n cynyddu o 2,000 i 18,000 o fewn blwyddyn.
"Yn ystod y pandemig, roedd Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf wedi dechrau gwneud pethau'n wahanol i Loegr ac roedd pobl yn teimlo bod penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn well na phenderfyniadau San Steffan," meddai.
Er hynny, dywedodd bod "heriau i gadw'r cwch i fynd".
"Mae 'na wastad densiwn am faint o fanylder mae pobl eisiau. Er enghraifft, mae rhai pobl eisiau mwy o fanylder am bolisi, ac eraill eisiau llai," meddai.
Mae YesCymru hefyd wedi dod dan y lach oherwydd gwrthdaro ar-lein ymysg rhai o'i aelodau am gyfeiriad ac arweiniad y mudiad.
Ond mae Mr Jobbins yn dweud bod y mudiad nawr yn canolbwyntio ar gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar-lein. “Mae angen treblu'r ecosystem ar y cyfryngau cymdeithasol ond hefyd gwneud pethau ar lawr gwlad."