Newyddion S4C

Achos Neil Foden wedi creu 'heriau sylweddol' medd aelod o Gabinet Gwynedd

Beca Brown

Mae’r Aelod Cabinet dros Addysg ar Gyngor Gwynedd wedi dweud bod achos Neil Foden wedi creu "heriau sylweddol" dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Beca Brown y bydd ei hadran yn “cydweithredu’n llawn” gydag ymchwiliad annibynnol i achos y cyn bennaeth ysgol a gafodd ei garcharu am 17 o flynyddoedd ym mis Gorffennaf.

Roedd rheithgor wedi cael Neil Foden yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin merched yn rhywiol.

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol i’r achos ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i’r adolygiad dan gadeiryddiaeth Jan Pickles gael ei gynnal am dros chwe mis cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Beca Brown, cynghorydd Llanrug, mewn cyfarfod o gabinet Cyngor Gwynedd ddydd Mawrth: “Hoffwn gydnabod heriau sylweddol y flwyddyn a aeth heibio yn sgil troseddau Neil Foden.

"Mae ein meddyliau i gyd wedi bod, ac yn parhau i fod gyda’r dioddefwyr."

Ychwanegodd Ms Brown bod y cyngor wedi bod yn rhoi cymorth i staff a dysgwyr dros y flwyddyn ddiwethaf.

"At hyn, mae’r Adran a’r Cyngor wedi ymrwymo i gydweithredu’n llawn gyda’r adolygiad annibynnol yn unol â chanllawiau cenedlaethol Adolygiad Ymarfer Plant."

Dywedodd bod y cyngor “yn barod i weithredu ar unrhyw ganfyddiadau neu argymhellion pan fyddant yn hysbys”.

"Rwyf hefyd yn croesawu bwriad y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi i gynnal Ymchwiliad Craffu i’r maes diogelu a bydd yr Adran unwaith eto’n barod iawn i gydweithredu’n llawn gyda’r ymchwiliad hwn yn ogystal." 

Y cefndir

Daeth i’r amlwg yn ystod achos Neil Foden fod rhai pobl wedi codi pryderon ynglyn â’i agosatrwydd ag un o’r plant nad oes modd eu henwi yn 2019. 

Cafodd rhain eu codi gyda phennaeth addysg Cyngor Gwynedd ar y pryd, Garem Jackson mewn e-bost. 

Dywedodd o wrth y llys ei fod wedi cysylltu gydag uwch swyddog lles ac wedi rhannu manylion yr achos. 

Ond cafodd wybod nad oedd angen cynnal ymchwiliad ffurfiol gan nad oedd unrhyw gyhuddiad penodol wedi cael ei wneud.

Er hynny, fe gafodd Mr Jackson gyngor i gael "sgwrs ddifrifol" gyda Mr Foden gan ei atgoffa “o'r angen i gadw pellter addas” gyda phobl ifanc.

Esboniodd fod Foden wedi dweud wrtho fod y pryderon yn “or-ddramatig” ac fe fynnodd nad oedd unrhyw beth amrhiodol wedi digwydd.

Dywedodd wrth y llys nad oedd ganddo gofnod ysgrifenedig o’r trafodaethau hyn oni bai am yr e-bost gwreiddiol.

Mi ddywedodd y barnwr yn yr achos llys, Rhys Rowands, fod hynny yn “bryder mawr.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.