Newyddion S4C

Defnyddio WhatsApp i godi ymwybyddiaeth o ganser ymhlith dynion du

18/09/2024
Dr Sarah Fry

Mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio prosiect newydd i ymchwilio i'r ffordd y gall defnyddio WhatsApp godi ymwybyddiaeth o ganser ymhlith dynion du yn y brifddinas.

Bwriad y prosiect yw ymchwilio i effeithiolrwydd WhatsApp fel ffordd o rannu gwybodaeth am y risg o ganser y brostad i ddynion du yn Butetown a Grangetown.

Mae'r prosiect, sy'n cael ei ariannu gan Ymchwil Canser y DU, hefyd yn gobeithio cynyddu diagnosis cynnar o'r canser yn y gymuned.

Dywedodd Dr Sarah Fry o Ysgol Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd bod gan ddynion du risg uchel o ganser y brostad, gydag un o bob pedwar yn datblygu'r clefyd.

Ar hyn o bryd dywedodd bod cyfraddau diagnosis o ganser y brostad yn isel yn eu plith.

"Rydyn ni eisiau datblygu ffordd gynaliadwy o gynyddu ymwybyddiaeth o ganser y brostad yn y cymunedau hyn," meddai.

"Mae hyn yn hollbwysig er mwyn ei ganfod a’i ddiagnosio’n gynnar."

'Dysgu oddi wrth ei gilydd'

Mae'r ymchwil yn cael ei arwain gan Dr Fry, sy'n Uwch Ddarlithydd ar y cwrs Nyrsio Oedolion.

Bydd ei thîm yn creu grŵp WhatsApp o dan arweiniad dau aelod o'r cymunedau Affricanaidd-Garibïaidd a Somalïaidd a fydd yn gwahodd 50 o'u cyfoedion i gymryd rhan.

Bydd yr ymchwilwyr yn asesu’r graddau y mae WhatsApp yn cael ei ddefnyddio a’i dderbyn. Byddant hefyd yn gweld faint o'r dynion sy'n cael eu gwahodd i'r grŵp WhatsApp sy'n mynd ymlaen i wirio eu risg o ganser y brostad.

Mae'n ddatblygiad o waith parhaus Dr Fry gyda chymunedau yn Nhrebiwt a Grangetown.

Yn ei rôl fel nyrs ymchwil mewn canolfan ganser fe wnaeth hi sylweddoli nad oedd dynion Affricanaidd neu Affricanaidd-Garibïaidd yn dod i'w chlinig.

Ers hynny, mae hi wedi bod yn gweithio'n galed i wella gwasanaethau gofal iechyd ar eu cyfer.

"Fe wnaethon ni benderfynu defnyddio platfform WhatsApp yn y prosiect hwn gan fod fy ngwaith blaenorol, gyda chymorth Arweinwyr Ymchwil Canser Prifysgol Caerdydd, yn awgrymu y byddai'n well gan ddynion yn y gymuned ddu gael gwybodaeth am iechyd gan ffrindiau mewn grwpiau WhatsApp," meddai.

"Yn fy ngwaith, rwyf wedi canfod bod gan gymunedau Affricanaidd ac Affricanaidd-Garibïaidd ddiwylliant gwirioneddol o ddysgu oddi wrth ei gilydd." 

Yn y tymor hir, mae Dr Fry yn gobeithio y bydd yr ymchwil yn amlinellu strategaethau i ddefnyddio WhatsApp fel ffordd o rannu gwybodaeth am y risg o ganser.

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.