Newyddion S4C

Agor cwest i farwolaeth ffermwr o ardal y Bala

Islwyn Owen

Mae cwest i farwolaeth ffermwr o Ladderfel ger y Bala wedi clywed ei fod wedi cael ei ddarganfod mewn tanc slyri ar ei fferm.

Bu farw Islwyn Owen, 67 oed, mewn digwyddiad ar fferm Cefn Bodig ar 4 Medi.

Wrth agor y cwest yng Nghaernarfon ddydd Mercher, dywedodd Kate Robertson, Uwch Grwner Ei Fawrhydi ar gyfer gogledd orllewin Cymru fod Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn galwad am 20.49 y diwrnod hwnnw yn dweud bod Mr Owen ar goll.

Roedd wedi bod yn gweithio ar y fferm ar y pryd.

"Mae'n ymddangos yn drist iawn ei fod wedi ei ddarganfod mewn tanc slyri, ac fe gafwyd cadarnhad ei fod wedi marw," meddai.

"Cafodd archwiliad post mortem ei orchymyn ar 9 Medi."

Ychwanegodd y crwner fod tystiolaeth yr archwiliad hwnnw wedi dod i'r casgliad bod y farwolaeth yn un annaturiol.

'Colled enfawr'

Yn dilyn ei farwolaeth, cafodd Mr Owen ei ddisgrifio fel ffermwr “gweithgar a chydwybodol”.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru mewn datganiad eu bod ar y pryd yn trin ei farwolaeth fel un heb esboniad.

Cafodd swyddogion eu galw i'r fferm lle y bu farw Mr Owen am 20.50 ar noson y digwyddiad. 

Mae'r heddlu'n gweithio ar y cyd gyda’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch er mwyn ceisio canfod yr amgylchiadau a wnaeth arwain at y farwolaeth. 

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y farwolaeth, dywedodd David Prysor ar ran Pwyllgor Sioe Ardal Maesywaen ei bod yn “dristwch o’r mwyaf… i glywed am y newyddion brawychus o farwolaeth Islwyn Owen, Cefn Bodig".

“Roedd Islwyn yn aelod gweithgar ymysg trefnwyr y sioe ac un o gefnogwyr mwyaf brwd i weithgareddau'r Sioe o'r dechrau. 

“Roedd Islwyn yn amaethwr heb ei ail ac yn ymfalchïo yn ansawdd ei stoc. Bydd colled enfawr ar ei ôl.”

Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau barhau gyda'u hymchwiliad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.