Glasgow yn cytuno i gynnal Gemau'r Gymanwlad yn 2026
Fe fydd Gemau’r Gymanwlad 2026 yn cael eu cynnal yn Glasgow wedi i Lywodraeth yr Alban gytuno i gynnal “fersiwn cyfyngedig” o’r digwyddiad.
Fe fydd y gemau yn dychwelyd i’r ddinas 12 mlynedd ar ôl cael eu cynnal yno y tro diwethaf, yn 2014.
Daw wedi i dalaith Victoria yn Awstralia, lleoliad y Gemau yn wreiddiol, dynnu allan o gynnal y digwyddiad yn 2026 ar sail cynydd mewn costau.
Fe wnaeth awdurdodau yn Awstralia gytuno i roi “buddsoddiad werth sawl miliwn o bunnoedd” er mwyn canfod cartref newydd i’r Gemau ymhen dwy flynedd.
Mae Llywodraeth yr Alban bellach wedi cytuno i gynnal fersiwn o’r gemau sydd yn “gyfyngedig ond o safon uchel”, gyda 10 o gampau yn cael eu cynnwys - naw yn llai nag yn y gemau diwethaf yn Birmingham dwy flynedd yn ôl.
Dywedodd y trefnwyr, Gemau’r Gymanwlad yr Alban, na fyddai’r arian am y gemau yn dod o’r pwrs cyhoeddus, ond yn hytrach o’r iawndal a dalwyd gan gorff Gemau’r Gymanwlad Awstralia i Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad (CGF).
Dywedodd Ian Reid, Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad yr Alban: “Rydym wedi bod yn glir o’r cychwyn bod ein cysyniad o Gemau ar gyfer Glasgow 2026 yn cyd-fynd â strategaeth y CGF i wneud y Gemau’n fwy hygyrch i westeion y dyfodol, tra’n sicrhau nad oes angen arian cyhoeddus.
“Glasgow yw un o’r ychydig ddinasoedd yn y Gymanwlad sy’n gallu cyflawni hyn o fewn yr amserlen o ystyried y cyfleusterau o safon fyd-eang, gweithlu profiadol a chadwyn gyflenwi gref.
“Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn a byddwn yn gweithio’n galed dros y dyddiau nesaf i ddod â darnau olaf y pos at ei gilydd.”
Llun: Seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow (Wochit/Wenn)