Torri taliadau tanwydd ‘yn achosi pryder’ yng Nghymru ond yn 'fater i Keir Starmer'
Mae Prif Weinidog newydd Cymru wedi dweud bod penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i dorri toriadau tanwydd “yn destun pryder” i bensiynwyr yng Nghymru.
Ond dywedodd Eluned Morgan, a oedd yn ateb cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd am y tro cyntaf ddydd Mawrth, nad oedd hi'n atebol am benderfyniadau Syr Keir Starmer.
Mae'r toriadau yn golygu na fydd dros 400,000 o bensiynwyr yng Nghymru yn derbyn taliadau tanwydd oedd rhwng £200 a £300 y flwyddyn, meddai’r Ceidwadwyr.
Mae Prif Weinidog y DU, Keir Starmer, wedi dweud ei fod wedi cyflwyno'r toriadau “o achos cyflwr economaidd y wlad”.
Wrth amddiffyn y penderfyniad yn wyneb beirniadaeth y gwrthbleidiau dywedodd Eluned Morgan mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU oedd y toriadau.
Ond dywedodd arweinwyr Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig y dylai “sefyll dros Gymru” yn hytrach na “phlygu drosodd” a dangos ei gwrthwynebiad cyhoeddus i’r penderfyniad.
“Mae hyn yn sicr yn rhywbeth sy’n achosi pryder ymhlith pobl hŷn yng Nghymru,” meddai Eluned Morgan.
“Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig inni gydnabod bod hwn yn sicr yn rhywbeth sydd wedi codi dro ar ôl tro gyda mi ar y strydoedd yn ystod fy ymarfer gwrando dros yr haf.”
Ond wrth ymateb i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, dywedodd: “Rwy’n gyfrifol am weithredoedd fy llywodraeth i, a bydd Keir Starmer yn gyfrifol am weithredoedd ei lywodraeth ef.
“Dydw i ddim yn mynd i ddod yma wythnos ar ôl wythnos, i ymateb i gwestiynau y dylid eu gofyn i Keir Starmer.
“Os ydych am fynd i ofyn cwestiynau i Keir Starmer, dylech fod wedi mynd i San Steffan.”
Ychwanegodd: “Mae’r cyfrifoldeb am glirio llanast y Llywodraeth Geidwadol flaenorol yn swydd i Keir Starmer.”
‘Sefyll dro Gymru’
Wrth holi Eluned Morgan ar lawr y Senedd, galwodd Andrew RT Davies arni i ymddiheuro am weithredoedd ei phlaid.
“Brif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud yn eich cyfweliad ddydd Sul eich bod yn mynd i sefyll dros Gymru, a siarad ar ran pobl yma yng Nghymru,” meddai.
“Rydych chi wedi cael dau gyfle i sefyll dros Gymru yma ar lawr Senedd Cymru, ac wedi methu’n druenus.
“Ac yn y pen draw, y pensiynwyr fydd yn talu pris y methiant hwnnw yma yng Nghymru.”
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, nad oedd Eluned Morgan yn “sefyll cornel Cymru” ond wedi “plygu drosodd”.
“Dro ar ôl tro rydyn ni wedi clywed y byddai dwy lywodraeth Lafur yn gweithio mewn partneriaeth o fantais i Gymru,” meddai.
“Nid yw'n teimlo felly wrth drafod taliadau tanwydd y gaeaf.
“Wrth gymeradwyo penderfyniad [Y Canghellor] Rachael Reeves, ma’r Prif Weinidog yn cymeradwyo parhad cyni Ceidwadol.”