Menyw ag anhwylder bwyta wedi teimlo’n ‘anniogel’ ac yn ‘ofnus’ mewn uned iechyd meddwl
Roedd menyw 21 oed yn teimlo’n “ofnus” ac yn “anniogel” wrth iddi gael triniaeth am anhwylder bwyta mewn unedau iechyd meddwl yn ne Cymru.
Dywedodd Georgia Taylor, o Frynnau, ger Pontyclun, fod ei hiechyd corfforol a meddyliol wedi dirywio ar ôl iddi gael ei derbyn i wardiau seiciatrig yn Llantrisant a Phen-y-bont.
Yn ôl Georgia, fe wnaeth hi ddatblygu problemau gyda'i chalon a cholli cymaint o bwysau nes iddi gael ei rhuthro i ward meddygol i gael triniaeth achub bywyd.
Roedd hi'n siarad ag ITV Cymru ar ôl adroddiad gan yr elusen iechyd meddwl Mind Cymru sy’n codi pryderon am ofal iechyd meddwl a diogelwch cleifion preswyl. Mae'n tynnu sylw at brinder staff gan ddweud fod hynny'n effeithio'n negyddol ar gleifion.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod ei hymrwymiad i flaenoriaethu iechyd meddwl yn cael ei adlewyrchu mewn buddsoddiad o £2 filiwn i wella ansawdd a diogelwch y gwasanaeth.
Dechreuodd Georgia gael trafferth ag anhwylder bwyta yn 14 oed.
“Roedd llawer o fy ffrindiau’n mynd ar ddeiet, ac mae yna bwyslais ar golli pwysau a ffitio’r norm o edrych yn hardd ac yn denau ar gyfryngau cymdeithasol,” esboniodd.
"Ond fe wnes i gymryd pethau’n rhy bell. Roeddwn i'n cael trafferth gyda fy anhwylder bwyta am nifer o flynyddoedd cyn iddo fynd yn ddifrifol iawn."
'Gwylio fi'n gwaethygu'
Unwaith iddi droi’n 18 oed, bu’n rhaid i Georgia gael ei throsglwyddo o CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed) i Wasanaethau Oedolion.
Wrth aros am gefnogaeth am sawl mis, yn ôl Georgia, fe wnaeth hi fynd yn sâl eto a chael ei chludo i uned iechyd meddwl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, cyn cael ei throsglwyddo i Ysbyty Tywysoges Cymru bythefnos yn ddiweddarach.
Tra yn yr unedau, roedd Georgia yn teimlo nad oedd gan staff yr adnoddau i ddelio â'r rhai sy'n cael trafferth ag anhwylderau bwyta. Roedd hyn yn golygu bod ymddygiadau sy'n gysylltiedig â'i hanhwylder bwyta yn aml yn mynd "dan y radar" ac fe wnaeth hi barhau i golli pwysau.
Dywedodd Georgia: “Doeddwn i ddim yn gallu deall pam nad oedd unrhywun yn deall bod hyn yn anodd iawn i mi, a bod rhoi pryd o fwyd o fy mlaen i ddim yn mynd i weithio.
"Mae angen iddyn nhw gael mwy o hyfforddiant gydag anhwylderau bwyta. Gan nad oedd gwely i fi yn unman arall, roedd e fel fy mod i yno a neb yn gwybod beth i'w wneud gyda fi. Felly roedden nhw, i ryw raddau, jyst yn gwylio fi'n gwaethygu.
“Roedd hynny’n anodd iawn i fy nheulu, oherwydd roedden nhw’n falch fy mod i o’r diwedd wedi derbyn gwely mewn ysbyty, rhywbeth oedd angen arna’i yn fawr, ond fe wnes i barhau i waethygu.”
'Poenus'
Ychwanegodd Georgia fod y defnydd o staff asiantaeth yn golygu bod anghysondebau yn ei gofal, ac mae'n honni bod hyn wedi arwain at gamgymeriadau. Fe soniodd sut oedd hi’n gallu cuddio bwyd oddi wrth y staff nad oedd yn gyfarwydd â'i chynllun triniaeth.
Roedd cleifion ar ei ward yn amrywio o bobl â sgitsoffrenia, iselder a phroblemau dibyniaeth. Fe ddywedodd hi y byddai ymladd yn digwydd o bryd i'w gilydd, oedd yn gwneud iddi deimlo'n anniogel.
Tra’n aros mewn uned seiciatrig am dri mis, aeth cyflwr Georgia mor ddifrifol nes iddi gael ei hanfon i uned anhwylderau bwyta arbenigol yn Lloegr.
"Roeddwn i wir angen y cymorth hwnnw, roeddwn i'n desperate," meddai. "Roeddwn i’n gobeithio ail-ddechrau fy mywyd. Fe ddigwyddodd hynny yn y pen draw, ond fe wnaeth e gymryd cymaint yn hirach nag oedd angen.
“Roedd yr holl amser yna pan oeddwn i’n dirywio gyda chymorth cyfyngedig yn wastraff. Gall hynny fod wedi cael ei atal pe bai’r newid o CAMHS i wasanaethau oedolion wedi bod yn llyfnach.
“Roedd hynny wedi gwneud y cyfnod o wella yn hirach ac yn llawer mwy poenus.”
'Peryglus o annigonol'
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ei fod wedi sefydlu bwrdd gwella i sicrhau bod gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu.
Fe wnaeth y Bwrdd hefyd dynnu sylw at adolygiad diweddar gan Arolygiaeth Iechyd Cymru o wasanaethau iechyd meddwl cleifion preswyl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a oedd yn cydnabod gwelliannau sylweddol.
Mae Mind Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i “arwain” wrth wella gofal i gleifion preswyl iechyd meddwl. Maen nhw am weld canolbwyntio ar daclo prinder staff, cynllunio gofal, a sut mae ataliadau yn cael eu defnyddio mewn unedau iechyd meddwl i gleifion preswyl ledled Cymru.
Dywedodd Sue O'Leary, Cyfarwyddwr Mind Cymru: "Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i arwain y gwaith o ofalu am ac amddiffyn pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl preswyl.
“Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar leisiau pobl sydd wedi cael profiad uniongyrchol o’r ffyrdd y gall gofal i gleifion preswyl helpu, ond sydd hefyd yn gallu bod yn beryglus o annigonol a heb urddas a pharch.
"Bydd cynyddu staffio, diweddaru côd ymarfer Deddf Iechyd Meddwl Cymru, ac amddiffyn diogelwch a hawliau cleifion i gyd yn mynd yn bell i helpu."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi buddsoddi £2 filiwn yn ddiweddar yng Ngweithrediaeth y GIG gan fod "gwella ansawdd a diogelwch ein gwasanaethau iechyd meddwl yn flaenoriaeth i ni."
Mae’r Llywodraeth hefyd yn anelu at weithredu 'Rhaglen Diogelwch Cleifion Iechyd Meddwl' sy'n canolbwyntio ar ofal cleifion preswyl.
Ychwanegodd y llefarydd: “Yn ddiweddar, fe wnaethon ni ymgynghori ar ein Strategaeth Ddrafft Iechyd Meddwl a Lles sydd wedi’i datblygu ar y cyd ag ystod o bartneriaid, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, gan osod ein gweledigaeth ar gyfer gwelliannau dros y 10 mlynedd nesaf.”