Newyddion S4C

Tŷ Hafan: Camau cyfreithiol yn erbyn perchennog parc antur am dyllu tir ger hosbis plant

17/09/2024
Codi tir ger Ty Hafan

Mae cyngor wedi dweud ei fod yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn perchennog tir ger hosbis plant Tŷ Hafan.

Daw wedi iddo ddechrau’r gwaith o dyllu yn ei dir, a hynny wedi iddo gael cais i beidio â gwneud hynny.

Fe gafodd Henry Danter, perchennog Parc Pleser Ynys y Barri, orchymyn i atal y gwaith o godi ei dir ger Ffordd Hayes yn Sili ym mis Ionawr eleni. 

Mae Mr Danter wedi dweud yn gyhoeddus sawl gwaith ei fod yn awyddus i droi’r tir i mewn i wersyll gwyliau. 

Mae rhieni plant sy’n derbyn gofal yn hosbis Tŷ Hafan gerllaw wedi codi pryderon am y gwaith, ac roedd deiseb i atal Mr Danter rhag parhau gyda’r gwaith adeiladu wedi denu dros 15,000 o lofnodion. 

Wrth siarad â Newyddion S4C y llynedd, dywedodd Lee McCabe o'r Bari a gollodd ei fab, Finn yn 2018 wedi iddo dreulio wythnosau yn Nhŷ Hafan, y byddai cynlluniau Mr Danter yn "dinistrio awyrgylch a tawelwch Tŷ Hafan".

'Anwybyddu'

Mae Mr Danter wedi dweud mai bwriad y gwaith yw gwella edrychiad ei dir, a bod hawl iddo wneud hynny.

Ond dywedodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Gynghorydd Lis Burnett bod tîm cynllunio’r cyngor wedi ymweld â’r safle a thrafod gyda Mr Danter “sawl gwaith”, yn ogystal â chysylltu gydag ef drwy lythyron, er mwyn pwysleisio beth oedd yn cael ei wneud ar ei dir.

“Er hynny mae yna sawl enghraifft o waith yn cael ei wneud sydd heb ei ganiatáu,” meddai.

Dywedodd bod Mr Danter yn “anwybyddu” ei ddyletswydd fel perchennog tir wedi iddo barhau i gynnal gwaith cloddio heb feddwl am yr effaith y bydd yn cael ar yr ardal o’i gwmpas.

Dywedodd y cyngor bod sawl digwyddiad wedi’i gofnodi yn ymwneud â Mr Danter yn defnyddio peirannau diwydiannol i godi'r tir.

Ond dywedodd Mr Danter fod y cyngor yn gwneud "mynydd allan o dwmpath twrch daear".

“Ry'n ni'n ceisio tacluso’r safle. Ry'n ni'n meddwl ein bod ni'n gweithredu o fewn yr hyn sy'n cael ei ganiatáu."

Image
Codi tir ger Ty Hafan

Cais cynllunio

Nid yw Mr Danter wedi cyflwyno cais cynllunio a fyddai’n caniatáu iddo droi ei dir ger Ffordd Hayes yn wersyll gwyliau.

Roedd Mr Danter wedi gwneud cais cynllunio er mwyn codi ffens ar y tir ac fe gafodd hynny ei gymeradwyo. Roedd hefyd wedi gwneud cais arall er mwyn iddo allu cadw cynwysyddion storio yno, ac un arall ar gyfer cadw carafanau ond fe benderfynodd dynnu'r rheini yn ôl.

Fe gafodd cynlluniau i ddatblygu gwersyll gwyliau drws nesaf i hosbis Tŷ Hafan eu gohirio y llynedd ar sail pryderon Cyngor Sir Morgannwg. 

Roedd y cyngor wedi rhoi stop ar unrhyw waith ar ddarn o dir Mr Danter ym mis Mawrth 2023 ar ôl derbyn tystiolaeth y gallai unrhyw ddatblygiad "arwain at ddinistrio nythod adar". 

Roedd y cais hefyd wedi dod i sylw Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Swyddog Bywyd Gwyllt a'r Amgylchedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.