Newyddion S4C

Tad i blentyn fu farw yn hosbis Tŷ Hafan yn beirniadu cynllun safle gwyliau gerllaw

Newyddion S4C 22/03/2023

Tad i blentyn fu farw yn hosbis Tŷ Hafan yn beirniadu cynllun safle gwyliau gerllaw

Mae tad i blentyn fu farw yn hosbis Tŷ Hafan wedi beirniadu cynllun i ddatblygu gwersyll gwyliau drws nesaf i'r hosbis.

Fe gollodd Lee McCabe o'r Bari ei fab, Finn, yn 2018, wedi iddo dreulio wythnosau yn Nhŷ Hafan. Dywedodd y byddai'r cynlluniau yn "dinistrio awyrgylch a'r lle tawel yw Tŷ Hafan".

Ond mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C, mae perchennog y tir, Henry Danter, sydd hefyd yn berchen ar ffair enwog Ynys y Bari, yn dweud bod y gofid yn "ddi-sail".

Rhoddodd ei air hefyd y byddai'n gadael "o leiaf pum erw o goetir" rhwng yr hosbis a'r gwersyll arfaethedig.

Cysylltodd trigolion pentref Sili gyda Newyddion S4C gyda chwynion bod tir rhwng yr hosbis a'u pentref yn cael ei glirio. Yn ogystal â'r effaith ar Dŷ Hafan, roedden nhw'n mynegi pryder hefyd am ddinistrio coed heb ganiatad a gwaredu ar gynefin posib i fywyd gwyllt.

Cadarnhaodd Cyngor Bro Morgannwg fod cais cynllunio wedi cael ei dderbyn ganddyn nhw ddiwedd Chwefror ond "nad oedd dogfennaeth angenrheidiol i gyd-fynd a'r cais".

Ychwanegodd y cyngor mewn datganiad: "Fel datblygiad mawr...mae'n rhaid yn gyntaf cwblhau ymgynghoriad cychwynnol. Dyw hynny heb ddigwydd."

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw'n "ymchwilio i adroddiadau bod coed yn cael eu torri yn anghyfreithlon ar dir ger Sili ym Mro Morgannwg."

Roedd Lee McCabe yn un o sylfaenwyr elusen Finn's Foundation. Ffurfiwyd yr elusen er cof am ei fab wedi iddo gael diagnosis o diwmor prin ar yr ymennydd yn 11 mlwydd oed. Bu farw Finn yn Nhŷ Hafan flwyddyn yn ddiweddarach.

Image
newyddion

Dywedodd Mr McCabe i leoliad tawel yr hosbis i blant roi cymorth iddo ddod i delerau â cholli ei fab.

"Roedd adegau lle nad oeddwn i'n gallu siarad gyda unrhyw un.

"Roeddwn i'n gallu mynd tu fas, eistedd lawr a gadael i'r cyfan olchi drosta'i. Roeddwn i'n gallu diflannu a llefain. Byddwn i ddim yn gweld unrhyw un am awr.

"Dwi'n credu os wyt ti'n colli llonyddwch rhywle felly, mae wedi diflannu am byth.

"Sai'n gallu dychmygu unrhyw beth gwaeth na bod yn yr adegau yna o golled ac anobaith na gorfod clywed swn pobl yn chwerthin, neu glwb neu beth bynnag."

Image
newyddion

Dywedodd Henry Danter wrth Newyddion S4C yr hoffai greu safle gwyliau ar y tir, sydd rhyw bedair milltir o'r Bari, i roi hwb i ddiwydiant twristiaeth y de.

"Mae pobl yn dod o bob cwr o'r byd i brofi gwefr y ffair [yn Ynys y Bari]. Rydyn ni'n cael cymaint o geisiadau dros yr haf gyda phobl yn holi ble allan nhw aros.

"Mae gyda ni wersylloedd carafannau, parciau gwyliau a chabanau pren. Ry'n ni angen i bobl ddod i Gymru nid am ddiwrnod yn unig, ond am wythnos neu bythefnos. Mae pobl am ddod yma i brofi'r hyn ry'n ni'n ei gynnig."

Roedd yn gwadu bod coed wedi eu torri yn anghyfreithlon, gan ddweud iddo glirio tir er mwyn gallu codi ffens newydd.

Roedd hefyd yn bendant na fyddai'r datblygiad yn effeithio ar yr hosbis gerllaw, gan ddweud: "Dyw'r tir i gyd ddim am gael ei ddefnyddio. Mae 20 erw yma, bydd y cyfan ddim yn cael ei ddefnyddio. Byddwn ni'n defnyddio 10 erw neu 15 ar y mwyaf, felly bydd rhwystr [rhwng y datblygiad a Thŷ Hafan].

"Mae hosbisau drwy'r wlad ac mae tai a phethau eraill o'u hamgylch. Ry'n ni'n rhedeg gwersylloedd eraill, ac hyd y gwn i, does dim cwynion yno am swn. Mae'r pryderon yn ddi-sail."

Mae Tŷ Hafan wedi cyhoeddi datganiad yn dweud eu bod "heb weld y manylion eto, ac felly heb gael cyfle i ddeall yn llawn beth sydd wedi ei fwriadu ar gyfer y tir drws nesaf i'n hosbis, nac i roi sgriwtini i'r cynlluniau rheiny."

Ychwanegodd llefarydd na fyddan nhw "byth yn cyfaddawdu ar bwysigrwydd diogelwch, preifatrwydd a llonyddwch yr hosbis a'i gerddi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.