'Methu gweld' Huw Edwards yn gweithio i'r BBC fyth eto medd pennaeth y gorfforaeth
'Methu gweld' Huw Edwards yn gweithio i'r BBC fyth eto medd pennaeth y gorfforaeth
Mae pennaeth y BBC wedi dweud nad yw’n “gallu gweld” Huw Edwards yn gweithio i’r gorfforaeth eto ar ôl iddo bledio’n euog i greu delweddau anweddus o blant.
Cafodd y cyn gyflwynydd ddedfryd o chwe mis o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd ddydd Llun, am fod â 41 o luniau anweddus o blant yn ei feddiant.
Roedd saith o’r lluniau yn perthyn i'r categori mwyaf difrifol – categori A.
Yng ngynhadledd The Royal Television Society yn Llundain ddydd Mawrth, dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davie fod y troseddau “gwarthus” wedi “cael effaith ar enw” y gorfforaeth.
Fe ofynnodd y newyddiadurwr Amol Rajan wrth Mr Davie yn y gynhadledd, pam fod y BBC wedi parhau i dalu Edwards, 63 oed, ar ôl dod yn ymwybodol o natur y cyhuddiadau yn ei erbyn.
“Fe benderfynon y byddai’r tâl yn parhau nes bod rhywun yn cael ei gyhuddo,” atebodd Mr Davie. “Dw i’n meddwl taw dyna oedd y penderfyniad cywir, yn seiliedig ar y polisi presennol.”
Ychwanegodd Mr Davie fod y gorfforaeth wedi gwneud ymholiadau ynglŷn â hawlio cyflog £200,000 Edwards yn ôl.
“Rydym eisiau’r arian yna yn ôl, rydym wedi gofyn i gael yr arian yn ôl ac rydym yn disgwyl i glywed yn ôl.”
Dywedodd hefyd mai teuluoedd y plant oedd y “flaenoriaeth bennaf” gan ddweud fod cyhuddiadau gan rai pobl ifanc ynglŷn ag ymddygiad Edwards ar y pryd wedi “eu cymryd o ddifrif”.
“Rydym wedi syfrdanu’n fawr. Mae yna lot fawr o siom oherwydd ar draws y BBC, mae yna dimoedd gwych a phobl dda, ac maen nhw’n teimlo eu bod wedi eu gadael i lawr yn fawr iawn.”