Newyddion S4C

Cyhuddo dyn o fod â gwn ffug yn ei feddiant yng Nghaernarfon

Lon y Bryn

Mae dyn 28 oed wedi cael ei gyhuddo o fod â gwn ffug yn ei feddiant wedi digwyddiad yng Nghaernarfon nos Sul. 

Cafodd swyddogion eu galw am 21.38 nos Sul i adroddiadau o anhrefn cyhoeddus yn Lôn y Bryn yn y dref.

Mae Mark Griffiths, o Lôn Helen yn y dref, wedi cael ei gyhuddo o gael gwn ffug yn ei feddiant gyda'r bwriad o achosi ofn a thrais. 

Mae'n parhau yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mawrth. 

Bydd yna bresenoldeb heddlu cynyddol yn y dref er mwyn darbwyllo bobl. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.