Newyddion S4C

Ymosodiadau Ysgol Dyffryn Aman: Merch 14 oed yn ymddangos yn y llys

Ysgol Dyffryn Aman

Mae merch 14 sydd wedi ei chyhuddo o drywanu dwy athrawes yn Ysgol Dyffryn Aman wedi ymddangos o flaen llys yn Abertawe ddydd Mawrth.

Mae’n wynebu saith cyhuddiad - tri o geisio llofruddio, tri o glwyfo’n fwriadol ac un o fod â llafn yn ei meddiant ar safle'r ysgol yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin.

Cafodd yr athrawon Fiona Elias a Liz Hopkin a disgybl eu hanafu yn y digwyddiad ar 2 Ebrill.

Ymddangosodd y ferch, oedd yn gwisgo crys gwyn a thei du, trwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth ar gyfer adolygiad o'r achos cyn iddo fynd i'r llys ar 30 Medi.

Dywedodd William Hughes KC ar ran yr erlyniad wrth y Barnwr Paul Thomas y gallai 19 o dystion gael eu galw ond dywedodd y gallai’r nifer “fod yn sylweddol llai”.

Dywedodd ei fod yn disgwyl i dystiolaeth bob tyst bara am 15 i 20 munud, gyda thystion yn cael eu galw gyntaf ddydd Mercher 2 Hydref, gyda thystiolaeth yn dod i ben yn ail wythnos yr achos llys.

Mae disgwyl i’r achos llys barhau am bythefnos.

Ymddangosodd Caroline Rees KC ar ran yr amddiffyniad.

Roedd y ferch wedi gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio yn flaenorol ond plediodd yn euog i’r cyhuddiadau llai o glwyfo gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol mewn gwrandawiad fis diwethaf.

Nid oes modd ei henwi o achos ei hoedran. 

Llun: Ben Birchall/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.