Newyddion S4C

Y cyflwynydd Jamie Theakston wedi cael diagnosis o ganser y gwddf

Jamie Theakston

Mae Jamie Theakston, un o gyflwynwyr y rhaglen radio Heart Breakfast, wedi cyhoeddi ei fod wedi cael diagnosis o ganser y gwddf.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y cyflwynydd 53 oed ei fod wedi cael diagnosis cynnar o ganser laryngaidd.

O ganlyniad i’w ddiagnosis, dywedodd y bydd yn rhaid iddo gamu yn ôl o'i rôl fel cyflwynydd radio am y tro er mwyn galluogi i’w lais i “orffwys.”

“Fel rydych chi’n ei wybod – ges i lawdriniaeth yn ddiweddar er mwyn cael gwared o friw ar fy nhannau llais. 

“Mae'r biopsi wedi canfod mai canser laryngaidd cam 1 yw hwn.

“Mae’r prognosis yn gadarnhaol iawn ac rwy’n gobeithio bod yn ôl gyda chi ym mis Hydref,” meddai.

Dywedodd hefyd y bydd ei gynulleidfa yn ddiogel yng nghwmni "galluog" ei gyd-gyflwynwyr Jason King ac Amanda Holden nes iddo ddychwelyd. 

“Byddwch yn ddiolchgar am y diwrnod hwn, ac erbyn i mi eich gweld chi y tro nesaf, bydd stori anhygoel gennyf… Jamie x.”

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.