Newyddion S4C

O leiaf 17 wedi marw yn dilyn llifogydd yng nghanolbarth Ewrop

Llifogydd Gwlad Pwyl

Mae o leiaf 17 o bobl wedi marw mewn gwledydd yng nghanolbarth a dwyrain Ewrop yn dilyn llifogydd o achos Storm Boris.

Ddydd Llun, fe gafodd dros 40,000 o bobl yn ninas Nysa yng Ngwlad Pwyl gyngor i symud i dir uchel yn dilyn rhybuddion am lifogydd pellach.

Roedd Maer Nysa, Kordian Kolbiarz, wedi annog trigolion i ffoi gan rybuddio bod peryg i’r ddinas gyfan fynd dan ddŵr.

Yn ystod y penwythnos fe welwyd llifogydd hefyd yng ngwledydd Romania, Awstria a'r Weriniaeth Tsiec.

Mae o leiaf saith o bobl wedi marw yn Romania.

Dywedodd Prif Weinidog Gwlad Pwyl, Donald Tusk, y bydd un biliwn zloty (£197m) yn cael ei rhoi i ddinasyddion sydd wedi dioddef yn sgil y llifogydd. 

Mae hefyd wedi dweud ei fod mewn cysylltiad gyda'r gwledydd eraill sydd wedi’i effeithio, ac y bydd yn gwneud cais i’r Undeb Ewropeaidd am gymorth ariannol pellach i’w wlad.

Yn Budapest, prif ddinas Hwngari, mae rhai o’r priffyrdd ar hyd yr afon Danube wedi eu cau am fod yna rhybuddion am lifogydd ddiwedd yr wythnos.

Mae’r afon Danube yn codi tua metr bob 24 awr.

Mae Prif Weinidog y wlad, Viktor Orban wedi oedi ei gynlluniau dramor oherwydd y “tywydd eithafol”.

Y Weriniaeth Tsiec sydd wedi cael y cyfanswm mwyaf o law. Yn nhref Jesenik, mae bron i 500mm o law wedi cwympo ers bore dydd Iau – a hynny ar gyfartaledd  bum gwaith yn fwy na’r glaw sydd yn fel arfer yn cwympo o fewn mis.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.