Y Prif Weinidog yn bwriadu tynnu deddfwriaeth i gynyddu nifer y menywod yn Senedd Cymru yn ôl
Mae’r Prif Weinidog newydd Eluned Morgan wedi penderfynu tynnu bil oedd â'r nod o gynyddu nifer y menywod yn Senedd Cymru yn ôl.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau fyddai'n gorfodi pleidiau i sicrhau bod o leiaf 50% o'u hymgeiswyr yn ferched.
Fe fyddai wedi sicrhau bod bob yn ail ymgeisydd ar restr pleidiau ar gyfer yr etholiad nesaf yn fenywod.
Ond roedd un o bwyllgorau'r Senedd wedi rhybuddio ym mis Mehefin y gallai fod wedi arwain at heriau cyfreithiol i ganlyniadau’r etholiad.
Roedd Llywydd y Senedd, Elin Jones, hefyd wedi rhybuddio nad oedd gan y Senedd y pwerau i basio'r deddfwriaeth.
Mewn cyhoeddiad ddydd Llun dywedodd y Trefnydd Jane Hutt AS eu bod nhw wedi penderfynu tynnu'r bil, Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), yn ôl.
Bydd aelodau'r Senedd yn cael pleidleisio ar y mater ar Medi 24, meddai.
“Yfory, bydd y Prif Weinidog yn nodi ei blaenoriaethau polisi a deddfwriaethol ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon, gan nodi'r meysydd hynny y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn canolbwyntio ei hegni'n llawn arnynt wrth gyflawni canlyniadau gweladwy i bobl Cymru,” meddai.
“O ganlyniad, rydym yn edrych ar draws y llywodraeth ar feysydd lle gallwn roi ein hamcanion polisi a deddfwriaethol ar waith mewn ffordd fwy ymarferol ac amserol.
“Ar ôl ystyried yn ofalus, rydym wedi penderfynu cyflwyno cynnig i dynnu'r Bil yn ôl o ystyriaeth bellach y Senedd.
“Bydd y cynnig hwn yn cael ei drafod, ac yn destun pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Medi.
“Yn ystod y ddadl Cyfnod 1, fe wnaeth cynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol yn y Senedd nodi'n glir eu bod wedi ymrwymo i'r maes pwysig o sicrhau cynrychiolaeth ddigonol gan fenywod yn y Senedd nesaf.
“Mae ein hymrwymiad i sicrhau Senedd gytbwys o ran rhywedd a denu mwy o fenywod i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth yn parhau, ond rydym wedi ystyried dros yr haf ac wedi penderfynu mai'r ffordd orau y gallwn gyflawni newid ymarferol ar gyfer etholiad Senedd 2026 yw drwy fynd i'r afael â'r mater hwn mewn ffordd wahanol.”
Beth oedd y bil yn ei gynnig?
Yn yr etholiad nesaf bydd y Senedd yn ehangu i 96 aelod.
Bydd y gwleidyddion yma i gyd yn cael eu hethol drwy yr hyn a elwir yn 'system gynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr gaeedig'. Mae hwn yn fath o system etholiadol lle mae pob plaid yn cyflwyno rhestr o'u hymgeiswyr ar gyfer etholaethau.
Nod y Bil Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol oedd cyflwyno cwota rhywedd fel rhan o'r system etholiad newydd yma.
Os byddai plaid wleidyddol yn cyflwyno rhestr o ddau neu fwy o ymgeiswyr mewn etholaeth Senedd, byddai angen iddynt sicrhau:
- Bod o leiaf 50% o'u hymgeiswyr yn fenywod; a
- Rhaid i bob ymgeisydd ar y rhestr nad ydynt yn fenywod, gael ei dilyn yn uniongyrchol gan fenyw, oni bai ei fod yn olaf ar y rhestr.
Ond roedd y Llywydd, Elin Jones, wedi datgan na fyddai darpariaethau'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Roedd hynny am ei fod yn ymwneud â chyfle cyfartal a chydraddoldeb, pynciau oedd heb eu datganoli o San Steffan i Senedd Cymru.
'Eisoes ar y gweill'
Wrth ddatgan y newyddion ddydd Llun, ychwanegodd Jane Hutt y bydden nhw'n edrych ar ffyrdd eraill o sicrhau cydraddoldeb yn y Senedd.
“Nid yw tynnu'r Bil hwn yn ôl yn atal pleidiau gwleidyddol rhag ystyried pa gamau y gallant eu rhoi ar waith drwy eu prosesau dethol ymgeiswyr," meddai.
“Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, mae'n bleser gen i roi gwybod y byddaf yn cyflymu datblygiad canllawiau newydd ar gyfer pleidiau gwleidyddol sy’n ymwneud ag amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys cynrychiolaeth gan fenywod yn ogystal ag ystod ehangach o briodoleddau ac amgylchiadau.
“Mae'r gwaith hwn eisoes ar y gweill, a byddwn yn ymgynghori yn gyhoeddus arno yn fuan.
“Bydd y canllawiau felly ar gael cyn i’r prosesau dethol ymgeiswyr gan bleidiau gwleidyddol ddechrau ar gyfer etholiad 2026.
“Rwy'n rhagweld y bydd y dull hwn yn helpu i gyflawni canlyniadau ymarferol a gweledol ar draws y sbectrwm gwleidyddol gyda'r nod o ddychwelyd Senedd gref ac amrywiol a all gynrychioli cymdeithas gyfan Cymru yn briodol.”
Ymateb
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies ei fod yn croeswu'r newyddion.
"Dylai’r amser a’r adnoddau a wastraffwyd ar y cynlluniau gwrth-ddemocrataidd hyn fod wedi mynd ar godi safonau yn ein GIG yng Nghymru, a’n hysgolion," meddai.
"Canlyniadau cyfartal nid cyfle cyfartal oedd nod cwotâu rhyw gorfodol ar gyfer etholiadau.
"Wrth i ni siarad, mae gweinidogion Llafur yn y Senedd yn mynd ar drywydd llawer o brosiectau di-bwrpas ac eithafol eraill sydd â chymhelliant ideolegol y tu cefn iddyn nhw.
"Rhaid cael gwared ohonyn nhw hefyd."