Newyddion S4C

Dyn o Risga ger Casnewydd yn euog o drosedd dan y ddeddf derfysgaeth

16/09/2024
Llys y Goron Winchester

Mae dyn o Risga ger Casnewydd wedi ei gael yn euog o drosedd dan y ddeddf derfysgaeth.

Fe wnaeth rheithgor yn Llys y Goron Winchester ddyfarnu Daniel Niinmae yn euog o feddu ar ddogfen oedd yn debygol o fod o ddefnydd i berson a oedd yn paratoi gweithred derfysgol.

Roedd hynny’n groes i Adran 58 Deddf Terfysgaeth 2000.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y llys wedi ei gael yn euog wedi ymchwiliad manwl gan Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru.

Fe wnaeth y llys ei gael yn ddieuog o ddwy drosedd o ledaenu cyhoeddiad terfysgol yn groes i Adran Dau o Ddeddf Terfysgaeth 2006.

Bydd Niinmae yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Winchester am 10.00 ddydd Mercher 27 Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.