Newyddion S4C

Defnyddio dronau i gludo gwaed fel rhan o gynllun peilot

Dronau i gludo samplau gwaed

Bydd cynllun peilot newydd yn defnyddio dronau i gludo gwaed pobl i ysbyty arall er mwyn osgoi traffig. 

Fe fydd y cynllun yn cael ei weithredu yn Llundain gyda'r nod o sicrhau ei fod yn cymryd llai o amser i gludo'r gwaed o un lle i'r llall.

Ar hyn o bryd mae'r daith rhwng Ysbytai Guy's a St. Thomas' ym mhrifddinas Lloegr yn cymryd mwy 'na hanner awr.

Ond trwy ddefnyddio dronau bydd y daith yn cymryd dau funud yn unig ac mae ganddo fanteision i'r amgylchedd, meddai swyddogion yn y gwasanaeth iechyd.

Bydd y cynllun peilot chwe mis o hyd yn cludo samplau gwaed cleifion sydd yn wynebu risg uchel o gymhlethdodau anhwylderau gwaedu i gael eu dadansoddi mewn ysbyty arall.

Mae'r cynllun yn golygu darparu'r gofal gorau i gleifion, yn ôl Prif Weithredwr Ysbyty Guy's, Yr Athro Ian Abbs.

"Mae'r cynllun yn cyfuno'n prif flaenoriaethau - darparu'r gofalu gorau i'n cleifion a gwella cynaliadwyedd," meddai.

"Rydym yn falch mai ni yw'r ysbyty gyntaf yn Llundain i dreialu'r cynllun er mwyn cyflymu trosglwyddo gwaed ar gyfer yr achosion pwysicaf."

Mae dronau eisoes wedi cael eu defnyddio gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gludo nwyddau meddygol eraill.

Ym mis Awst 2o22 roedd ysbytai yn Sir Gaerhirfryn a Cumbria wedi defnyddio dronau i symud nwyddau meddygol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.