Newyddion S4C

Cwymp Huw Edwards: O ddarllen y penawdau i greu'r penawdau

Cwymp Huw Edwards: O ddarllen y penawdau i greu'r penawdau

Roedd Huw Edwards yn un o'r wynebau mwyaf adnabyddus ar y teledu cyn i'w yrfa ddisglair orffen wedi sgandal a ddaeth i ben pan gafodd ddedfryd o garchar wedi'i gohirio ddydd Llun.

Y Cymro 63 oed oedd y darlledwr newyddion ar y cyflog uchaf yn y BBC ac fe gyflwynodd News At Ten am ddegawdau cyn iddo bledio’n euog i wneud delweddau anweddus o blant ddiwedd mis Gorffennaf.

Clywodd Llys Ynadon Westminster ddydd Llun am ei berthynas gymleth gyda'i dad "piwritanaidd", yr hanesydd Hywel Teifi Edwards. 

Awgrymodd yr amddiffyniad bod y berthynas honno wedi effeithio'n fawr ar y diffynnydd yn ddiweddarach yn ei fywyd.

Clywodd y llys fod “cefndir cyfyngedig, piwritanaidd ond yn aml rhagrithiol o dyfu i fyny mewn ardal ddiwylliannol arbennig yn ne Cymru gyda thad oedd yn uchel ei barch a’i ganmoliaeth y tu allan i’r teulu, ond yn cael ei weld fel un oedd yn ymddwyn yn wrthun o fewn y teulu, yn creu anghysondeb gwybyddol parhaus a hunan-barch isel”.

Byddai llawer oedd yn y llys yn gofyn pa fath o amddiffyniad fyddai'r ddadl honno mewn gwirionedd, o gofio bod miloedd yn tyfu i fyny mewn teuluoedd cymleth, ond yn peidio symud ymlaen i droseddu.

Pâr diogel o ddwylo

Roedd Edwards yn cael ei ystyried fel y wyneb mwyaf adnabyddus yng ngwasanaeth newyddion y BBC, ac yn cael ei ystyried fel pâr diogel o ddwylo i arwain y wlad trwy ddigwyddiadau mawr gan gynnwys marwolaeth y Frenhines, a gyhoeddodd i’r genedl ym mis Medi 2022.

O ddarllen y penawdau i fod yn y penawdau - daeth diwedd ar ei yrfa ddisglair ar ôl iddo gyfaddef bod ganddo 41 o ddelweddau anweddus o blant ar ei gyfrif WhatsApp, gan gynnwys saith o’r mathau mwyaf difrifol.

Fe wnaeth Edwards osgoi cyfnod o garchar a dywedodd y barnwr yn Llys Ynadon Westminster na fyddai’n “ormodedd” dweud bod ei “enw da yn deilchion.”

Roedd wedi sefydlu'r enw da hwnnw fel darlledwr uchel ei barch cyn iddo ymddiswyddo o’r gorfforaeth ym mis Ebrill, a hynny yn dilyn yr ymateb cyhoeddus i honiadau yn ei erbyn, ar wahân i’r cyhuddiadau a wynebodd yn ddiweddarach, am wneud taliadau i berson ifanc am luniau o natur rywiol.

Image
Huw Edwards
Huw Edwards yn cyrraedd y llys ddydd Llun

Roedd yn wyneb cyfarwydd mewn darllediadau byw o ddigwyddiadau fel etholiadau, Jiwbilî Diemwnt y Frenhines yn 2012 a'r Jiwbilî Platinwm yn 2022, priodas Dug a Duges Caergrawnt yn 2011, priodas Dug a Duges Sussex yn 2018, ac angladd Dug Caeredin yn 2021.

Roedd y darlledwr, a fynychodd Ysgol Ramadeg Llanelli ac a raddiodd mewn Ffrangeg o Brifysgol Caerdydd, yn Athro er Anrhydedd yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn ei hen brifysgol cyn iddo ymddiswyddo o’i deitl Athro er Anrhydedd a Chymrodoriaeth er Anrhydedd ar ôl iddo bledio’n euog.

Ym mis Mehefin 2023, enillodd Edwards wobr am y digwyddiad byw gorau yng Ngwobrau Tric am ei ddarllediad o angladd y diweddar Frenhines, ac ym mis Chwefror derbyniodd wobr arbennig gan y Broadcast Awards.

Yn 2012 enillodd y BBC Bafta am ddarllediadau Edwards o briodas y Tywysog William a Kate Middleton ac mae hefyd wedi ennill gwobr y cyflwynydd gorau ar y sgrin yng ngwobrau Bafta Cymru sawl gwaith dros y blynyddoedd.

Bu Edwards yn flaenorol yn is-lywydd yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol ac mae wedi ymddangos ar Songs Of Praise a Dechrau Canu Dechrau Canmol.

Mae hefyd wedi gwneud rhaglenni dogfen ar gyfer y BBC gan gynnwys Wales: Who Do We Think We Are? a sôn am ei iselder ar raglen S4C Huw Edwards yn 60.

Mewn rhaglen ddogfen yn 2021, datgelodd Edwards ei fod wedi cael pyliau o iselder dros y ddau ddegawd diwethaf oedd wedi ei lorio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.