Newyddion S4C

Pryder am 'argyfwng' recriwtio bydwragedd yng Nghymru

ITV Cymru
Mam a baban

Mae bydwragedd dan hyfforddiant yn cael eu gorfodi i adael y proffesiwn oherwydd "pwysau ariannol aruthrol", yn ôl adroddiad gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM).

Mae’r adroddiad yn nodi fod lleoliadau gwaith ymarferol ac hyd y tymhorau dysgu yn golygu na all myfyrwyr wneud gwaith ychwanegol er mwyn talu'r biliau.

Dywedodd Fiona Gibb, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth Broffesiynol y RCM, bod bydwragedd yn wynebu "ysgwyddo mwy o ddyled, gan gynnwys benthyca gan deulu a ffrindiau, neu i roi’r gorau i'w breuddwydion".

Mae'r undeb yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig gwell cymorth ariannol i bobl sy'n astudio i fod yn fydwragedd.

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn ymestyn Bwrsariaeth y GIG unwaith eto ar gyfer myfyrwyr cymwys yn ystod y flwyddyn academaidd hon a'i bod wedi "cynnal buddsoddiad o £281m mewn addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithlu'r GIG eleni".

Ond mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd wedi disgrifio’r sefyllfa fel "argyfwng” ac yn galw ar y llywodraeth i ymrwymo i gefnogaeth sy'n unol â chwyddiant ac ad-daliad am gost lleoliadau myfyrwyr.

Heb fwy o gefnogaeth, mae pryder y bydd nifer y bydwragedd cymwys yn gostwng.

“Mae’n rhaid i’r system fod yn gallach na hyn, fel nad ydym yn colli’r bydwragedd sydd eu hangen yn ddirfawr”, meddai Fiona Gibb.

Gall bydwragedd dan hyfforddiant sydd â chyfeiriad cartref parhaol yng Nghymru hawlio bwrsariaeth nad yw’n ad-daladwy, os ydynt yn gweithio yn y wlad am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydym unwaith eto yn ymestyn Bwrsariaeth y GIG ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd cymwys sy’n astudio ym mlwyddyn academaidd 2024-25.

"Mae hynny ochr yn ochr â chael gwared ar y Benthyciad Cynhaliaeth Is ar gyfer myfyrwyr newydd a phresennol sy’n gymwys, yn llawn amser, a’n hanu o Gymru."

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.