Newyddion S4C

Angen 'dechrau newydd' medd Plaid Cymru wrth i'r Senedd ail gwrdd

Eluned Morgan

Mae Plaid Cymru wedi dweud fod angen "dechrau newydd" ar Gymru wrth i Eluned Morgan wynebu cwestiynau i’r Prif Weinidog am y tro cyntaf ddydd Mawrth.

Galwodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ar y Prif Weinidog newydd i roi "cerydd cyhoeddus" i Brif Weinidog y DU, Keir Starmer am dorri taliadau Tanwydd Gaeaf i bensiynwyr.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth nad oedd gwaddol llywodraethau Llafur olynol “erioed wedi bod yn gliriach” wrth i'r Senedd ddychwelyd o doriad yr haf ddydd Mawrth.

“Ar ôl gaeaf o anfodlonrwydd ac haf o dawelwch, mae dirfawr angen hydref o weithredu gan y Llywodraeth Lafur hon," meddai.

“Mae dŵr coch clir rhwng Llafur yng Nghymru a Keir Starmer yn brin ac oni bai bod y Prif Weinidog yn fwy llafar ac yn gweithredu gyda gwir fwriad wrth sefyll i fyny i benderfyniadau llywodraeth Lafur y DU sy’n gyrru pensiynwyr i dlodi a gwasanaethau cyhoeddus i’r llawr, bydd y ffynnon yn sych."

Daw ei sylwadau wedi i Eluned Morgan gyhoeddi y bydd yn rhoi “Cymru gyntaf a’i phlaid yn ail” yn y swydd.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Politics Wales ddydd Sul ychwanegodd ei bod hi’n "disgwyl" ffrae gyda’r Blaid Lafur sy’n llywodraethu ar draws y DU o ganlyniad.

Cafodd y Senedd ei galw yn ôl o wyliau ddechrau mis Awst er mwyn i Eluned Morgan gael ei hethol yn Brif Weinidog wedi i Vaughan Gething ymddiswyddo.

Y Farwnes Morgan yw'r fenyw gyntaf i arwain Llafur Cymru a'r fenyw gyntaf i gael ei hethol i fod yn Brif Weinidog Cymru.

Mae hi eisoes wedi ailwampio cabinet ei llywodraeth - gan benodi Jeremy Miles yn Ysgrifennydd Iechyd a’r cyn Brif Weinidog Mark Drakeford yn Ysgrifennydd dros Gyllid a’r Gymraeg.

‘Gwrando’

Ers cael ei hethol mae hi hefyd wedi mynd ar daith “gwrando” o amgylch Cymru, er i’r gwrthbleidiau ddweud mai “stỳnt” cysylltiadau cyhoeddus oedd hynny.

Roedd cais gan wasanaeth newyddion Nation.Cymru wedi dangos nad oedd ei thaith yn cynnwys yr un digwyddiad swyddogol er mwyn gwrando ar farn y cyhoedd.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: “Nid oes gan ‘ymarfer gwrando’ y prif weinidog unrhyw ganlyniadau mesuradwy na phroses werthuso.

“Nid yw’n ddim mwy na stỳnt PR i geisio gwneud argraff ar y cyhoedd ar ôl misoedd o frwydro mewnol.”

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru bod y daith "yn cael ei defnyddio i'w helpu i osod blaenoriaethau’r llywodraeth" a fydd yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau tymor y Senedd.

Dywedodd y Farwnes Morgan ei bod wedi treulio’r haf yn “mynd allan ac yn gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud ar hyd a lled Cymru”.

“Rhan o’r broblem o fod mewn grym cyhyd ag y mae Llafur wedi bod yng Nghymru – 25 mlynedd yn llywodraethu Cymru – yw sut ydych chi’n ailddyfeisio eich hun tra byddwch yn y swydd?” meddai.

“I mi, y peth pwysig yw gwneud yn siŵr eich bod yn myfyrio ar flaenoriaethau’r cyhoedd.”

Ymysg y pynciau y mae hi wedi awgrymu y bydd newid cyfeiriad arno yw’r terfyn cyflymder 20mya, a diwygio'r Gwasanaeth Iechyd.

“Gadewch i ni fod yn glir, dydyn ni ddim yn mynd i drwsio’r GIG yn yr 20 mis nesaf,” meddai wrth Politics Wales.

Ond ychwanegodd y bydd "y pethau sydd bwysicaf i bobl, fel y rhestrau aros hiraf," yn dod i lawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.