Y Llyfrgell Genedlaethol yn 'ymateb yn bositif' i doriadau
Mae aelodau staff y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth wedi "ymateb yn bositif" i doriadau i'w chyllideb ac yn gobeithio y bydd rhaglen newydd ar S4C yn denu mwy o bobl i ymweld â nhw.
Wrth groesawu pennod gyntaf cyfres newydd Cyfrinachau'r Llyfrgell dywedodd Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Cyfathrebu'r Llyfrgell Genedlaethol bod y sefydliad yn profi "cyfnod anodd".
Ar ddiwedd mis Rhagfyr 2023 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gwtogiad o 10.5% yng nghyllid y sefydliad ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.
Dywedodd y Llyfrgell Genedlaethol bod hyn yn golygu toriad o £1.3 miliwn i'w cyllideb. Ym mis Medi cyhoeddwyd y bydden nhw yn derbyn £725,000 yn ôl gan Lywodraeth Cymru.
"Mae cyrff cyhoeddus fel ni yn mynd trwy gyfnod anodd iawn ar hyn o bryd gyda thoriadau i gyllid ac ati ond ry'n ni'n ymateb yn bositif," meddai Rhian Gibson.
"Mae 'na deimlad positif ymysg y staff am y Llyfrgell - ry'n ni gyd wrth ein boddau gyda'r Llyfrgell, ac rydym yn gobeithio y bydd pob un fydd yn gwylio'r gyfres hefyd yn cwympo mewn cariad â hi ac yn sylweddoli ei pherthnasedd i ni gyd.
"Mae'r gyfres yn dangos bod rhywbeth yn y Llyfrgell i bawb a bod treftadaeth a diwylliant yn berthnasol i Gymru gyfan.
“Ry’n ni’n gobeithio y bydd yn sbardun i bobl ymweld â’r Llyfrgell yn Aberystwyth neu ar-lein."
'Trysorau mwyaf gwerthfawr'
Mae'r gyfres yn cael ei chyflwyno gan y cyflwynydd teledu a radio Dot Davies.
Fe fydd hi'n tywys pedwar o enwogion Cymru; y darlledwr a'r digrifwr Tudur Owen; cantores, cyfansoddwraig a darlledwr Cerys Matthews; y naturiaethwr Iolo Williams a'r newyddiadurwr Maxine Hughes o gwmpas y llyfrgell wrth iddyn nhw ddarganfod "straeon twym galon ac, ar adegau, rhai torcalonnus o'r gorffennol."
Dywedodd Tudur Owen bod y llyfrgell yn cynnwys trysorau ar gyfer Cymru gyfan.
"Alla i ddim aros i ddod yn ôl," meddai.
"Mae fel cwpwrdd arbennig sydd gan bob teulu lle ’da ni’n cadw ein trysorau mwyaf gwerthfawr.
"Dyna beth yw'r Llyfrgell, ond ar gyfer y wlad."
Dywedodd Dot Davies: "Mae cyflwyno Cyfrinachau'r Llyfrgell yn un o'r profiadau gorau i mi ei gael erioed.
"Y Llyfrgell Genedlaethol yw'r brif seren.
"Fel merch o Geredigion roedd hyn ar fy stepen drws, ond doeddwn i ddim yn gwerthfawrogi'r hyn oedd gennym ni.
"Mae'r gyfres hon wedi newid hynny."
Fe allwch chi wylio pennod gyntaf Cyfrinachau'r Llyfrgell ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 21:00 nos Fawrth.