Newyddion S4C

Cwmni o Aberystwyth yn ennill achos llys 'hanesyddol'

16/09/2024

Cwmni o Aberystwyth yn ennill achos llys 'hanesyddol'

Cyn Covid, roedd busnes Rhian a Mark Phillips yn ffynnu yn y Why Not Bar & Lounge yn Aberystwyth.

Roedd y ddau wedi rhedeg y clwb nos ers 20 mlynedd. Ym mis Rhagfyr 2019, prynnon nhw'r adeilad drws nesaf gan agor y bwyty SY23.

Ychydig wythnosau wedyn, tarrodd Covid a'r effaith ar eu busnesau yn ddychrynllyd yn ôl Rhian.

"Wnaethon ni fuddsoddi'n drwm mewni'r adeilad a'r busnes newydd 'mond i gau mewn tri mis ar ôl agor.

"Gethon ni eitha dipyn o fraw amser wnaeth Covid ein cau ni."

Wrth geisio dod yn ôl i drefnar ôl y pandemig roedd SY23 yn llewyrchus gan ennill sêr Michelin yn 2022 a 2023.

Ond roedd y difrod ariannol eisoes wedi'i wneud.

Cyn penderfynu cau'r busnes, aeth Mark Phillips at ei gwmni yswiriant.

Gofynnodd am help ond roedd rhaid profi bod Covid yn yr adeilad cyn medru derbyn cymorthnneu iawndal.

"Achos o'n ni'n isel o ran staffio daeth tad a llysfam Marklawr i helpu ni gyda'r busnes gan fod ni angen cymorth.

"Ar ôl iddyn nhw fynd nôl i Loegr, aeth nhw'n sal.

"Mae'n amlwg bod nhw wedi dal y Covid gyda ni a fuon nhw farw. Felly, ni 'di gwneud colledion personol ac ariannol."

Yn dilyn brwydr sydd wedi para pedair blynedd mae'r Llys Apel wedi dyfarnu o blaid Mark a Rhian Phillips yn ogystal â phump achos tebyg arall.

Mae'n golygu bod y ddau'n medru gwneud cais o'r newydd i geisio hawlio peth o'u colledion yn ôl, dros £1.5 miliwn.

"Mae gymaint o fusnesau bach tu ôl i ni. Mae tua 10,000 yn aros am wrandawiad ar eu cyfer nhw."

Doedd y cwmni yswiriant ddim am ymateb i'r dyfarniad ond mae'r penderfyniad yn agor y drws i sawl achos arall yn ôl y cyfreithwyr sy'n cynrychioli Mark a Rhian.

"Everybod was hit financially and many have suffered loss. They have had to continue to run and do their very best all the while trying to resolve these claims with their insurers."

Mae cyfnodau clo Covid wedi hen ddarfod ond mae'r effaith ariannol yn dal i frathu a phobl fel Rhian a Mark yn fwy hyderus o hawlio ychydig o'r hyn a gollwyd yn ôl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.