Newyddion S4C

Efeilliaid wedi marw mewn tân ‘wedi eu hamgylchynu gan sbwriel a charthion’

16/09/2024
Yr efeilliaid

Fe wnaeth pedwar o fechgyn ifanc farw mewn tân wedi eu hamgylchynu gan sbwriel a charthion dynol, clywodd llys.

Mae Deveca Rose, 29 wedi ei chyhuddo o ddynladdiad dau set o efeilliaid - Leyton a Logan Hoath, oedd yn dair oed, a Kyson a Bryson Hoath, oedd yn bedair oed.

Mae hefyd yn wynebu cyhuddiad o greulondeb at blant.

Bu farw’r pedwar o blant wedi y tân yn eu tŷ teras yn Sutton, yn ne Llundain, a achoswyd gan sigarét wedi ei adael neu gannwyll.

Roedd eu mam wedi eu cadw nhw adref ar eu pennau eu hunain i fynd i Sainsbury’s.

Wrth agor yr achos llys yn yr Old Bailey ddydd Llun, dywedodd Kate Lumsdon KC mai mam sengl oedd y diffynnydd, ar ôl iddi wahanu oddi wrth dad y bechgyn Dalton Hoath.

Tua 18.30 ar 16 Rhagfyr 2021, gadawodd y plant heb oruchwyliaeth yn y tŷ yn Heol Collingwood ac fe aeth i Sainsbury’s, clywodd y llys.

Sylweddolodd cymdogion fod y tŷ ar dân a'u bod yn gallu clywed y plant y tu mewn a bod y drws ar gau, meddai Ms Lumsdon.

“Ciciodd cymydog y drws i lawr ond roedd y tân wedi cydio i’r fath raddau fel ei bod yn amhosib mynd i mewn,” meddai.

“Cafodd y frigâd dân eu galw. Gan ddefnyddio dillad amddiffynnol priodol a chyfarpar anadlu, diffoddodd y dynion tân y tân a mynd i mewn i'r tŷ.

“Fe ddaethon nhw o hyd i’r pedwar bachgen o dan wely i fyny’r grisiau. Roeddent yn llipa ac yn anymwybodol.

“Nododd dynion tân fod yna sbwriel ar hyd llawr y tŷ a charthion dynol. Roedd yna fatres a drws ar y grisiau.”

'Jade'

Wedi ymdrech i’w hachub ar y palmant y tu allan i’r tŷ cafodd y plant eu cludo i’r ysbyty.

Dywedodd Ms Lumsdon fod y fam, Deveca Rose wedi honni iddi adael y plant gyda dynes o'r enw Jade, ac fe aeth y diffoddwyr tân yn ôl i mewn i'r tŷ i chwilio amdani.

Ond dywedodd yr erlynydd nad oedd unrhyw arwydd o’r ffrind.

Roedd ymholiadau yn awgrymu bod ‘Jade’ naill ai ddim yn bodoli neu heb chwarae unrhyw ran yn nigwyddiadau’r noson honno.

Mae’r fam o Wallington, de Llundain, yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei herbyn ac mae’r achos llys yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.